Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 21 Mehefin 2017.
Wel, mae hyn yn rhan o’r hyn y disgwyliwn i fyrddau iechyd ei gynllunio a’i ddarparu i ddeall beth y maent yn ei wneud ar hyn o bryd a lle nad yw’n darparu lefel dderbyniol o ofal, a lle mae amseroedd aros yn bwysig, fel rwy’n derbyn eu bod mewn perthynas ag ystod o gyflyrau, sut y maent yn bwriadu cyflawni a gwella’r rheini, boed drwy gomisiynu gwasanaethau gan fyrddau iechyd ac ardaloedd eraill, neu feddwl sut y maent yn eu cyflawni mewn gwirionedd. A dweud y gwir, mewn perthynas â chardioleg, dangoswyd y gall rôl lwyddiannus cardioleg gymunedol—a dreialwyd yn ardal bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg—wella amseroedd aros ar gyfer pobl mewn cardioleg gofal eilaidd, gan fod pobl yn cael gwasanaeth gwahanol sy’n addas iddynt hwy mewn lleoliad gofal sylfaenol, a golyga hynny fod pobl sydd wir angen gweld meddyg ymgynghorol mewn lleoliad gofal eilaidd yn fwy tebygol o gael eu gweld yn gynt. Felly, mae mentrau ar waith yn barhaus, ond rwy’n fwy na pharod i ysgrifennu atoch gyda rhagor o fanylion ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan.