Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 21 Mehefin 2017.
Edrychaf ymlaen at fynychu’r digwyddiad torri’r dywarchen dros yr haf ar gyfer yr hyn a elwir ar hyn o bryd yn ganolfan gofal arbenigol a chritigol, felly mae’r gwaith adeiladu yn dechrau. Rwyf eisoes wedi nodi yn un o fy natganiadau blaenorol fy mod yn disgwyl iddi agor, rwy’n credu, yn 2021. O ran ei heffaith ar amseroedd aros, mae mwy o ddiddordeb gennyf yn ei heffaith ar y system gyfan a’r hyn a olyga o ran darparu gofal o ansawdd gwell. Credaf fod hyn yn rhan o’n her. Rydym yn sôn am ansawdd y gofal yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Rydym yn aml yn siarad yn ofer am niferoedd ac amser, ac mewn gwirionedd, nid dyna’r mesur gorau bob amser o welliant a pha ffurf sydd ar ansawdd. Yn sicr, rwy’n disgwyl i’r ysbyty newydd fod yn rhan o fwrdd iechyd sy’n perfformio’n dda yng nghyd-destun Cymru, er mwyn parhau i gyflawni a gwella ansawdd eu gofal mewn perthynas ag ystod o fesurau, gan gynnwys gofal dewisol a gofal heb ei drefnu. Ond wrth gwrs, bydd rolau o hyd i ysbytai eraill yn ardal ehangach Gwent, yn ogystal â’n huchelgais hirdymor i weld mwy o ofal yn cael ei ddarparu yn y lleoliad gofal sylfaenol beth bynnag.