Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 21 Mehefin 2017.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy’n falch iawn heddiw o gael yr amser yn ystod wythnos y ffoaduriaid i drafod adroddiad ein pwyllgor ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Y cyd-destun ar gyfer yr ymchwiliad yw trasiedi rhyfel, ansefydlogrwydd, a phobl wedi’u dadleoli. Canfu astudiaeth ddiweddaraf y Cenhedloedd Unedig, a gyhoeddwyd ddydd Llun, fod 65.6 miliwn o bobl wedi’u dadleoli o’u hanfodd ar draws y byd ar ddiwedd 2016. Ar gyfartaledd, cafodd 20 o bobl eu gyrru o’u cartrefi bob munud y llynedd, neu un bob tair eiliad. Ac mae cyfanswm y bobl sy’n chwilio am ddiogelwch ar draws ffiniau rhyngwladol fel ffoaduriaid yn 22.5 miliwn, y nifer uchaf ers yr ail ryfel byd.
Mae lluniau a straeon y bobl sy’n dianc rhag rhyfel ac erledigaeth yn Syria, Irac, a gwledydd eraill yn drychinebus o gyfarwydd. Mae’r daith beryglus y mae llawer ohonynt yn ei gwneud i groesi Môr y Canoldir mewn cychod bach gorlawn wedi arwain at farwolaeth nifer enfawr o bobl, gyda llawer ohonynt yn blant, cyn iddynt gyrraedd y lan. Fel y clywodd y pwyllgor, mae’n debygol fod y rhai sy’n goroesi ac yn cyrraedd y DU, gan gynnwys plant ar eu pen eu hunain, wedi profi digwyddiadau hynod drawmatig, sy’n gadael creithiau seicolegol parhaol, ac ar yr adeg hynod fregus hon yn eu bywydau, maent yn wynebu cyfres newydd o heriau anferth. Clywsom mai un ymadrodd a ddefnyddir yn aml gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches yw ‘Roeddwn i’n arfer bod yn rhywun’. Rhoesom y datganiad grymus a thrawiadol hwn yn deitl ar ein hadroddiad.
Roeddem yn ymwybodol, wrth benderfynu sut i fwrw ati gyda’n hymchwiliad, mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw polisi lloches. Fodd bynnag, mae profiad ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru yn dibynnu i raddau helaeth ar hygyrchedd ac ansawdd gwasanaethau a ddatganolwyd, ac felly mae’n perthyn i gylch gwaith Llywodraeth Cymru. Yn ystod ein hymchwiliad, buom yn edrych ar gynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches a’i chynllun cyflawni cydlyniant cymunedol. Cawsom dystiolaeth hefyd ynglŷn ag adsefydlu ffoaduriaid o Syria yng Nghymru, yn ogystal â chymorth ar gyfer plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches ac sy’n wynebu heriau penodol. Yn ogystal â derbyn tystiolaeth ysgrifenedig a llafar, buom ar ymweliadau yng Nghaerdydd, Abertawe, Glasgow a Chaeredin. Gohebwyd hefyd â’r Swyddfa Gartref a darparwr llety lloches yng Nghymru.
Gwelsom dystiolaeth o arferion da ledled Cymru. Mae’n amlwg, mewn llawer o fannau, ac mewn sawl ffordd, fod y gwasanaethau cyhoeddus a’r trydydd sector yn gweithio’n effeithiol i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i addasu i fywyd yn ein cymunedau ac i gael y cymorth y maent ei angen. Fodd bynnag, clywsom dystiolaeth hefyd fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i helpu partneriaid cyflenwi mewn nifer o feysydd. Mae angen iddi gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU, adnewyddu ei chyfeiriad strategol, a chwarae rhan uniongyrchol yn y broses o gyflenwi.
Mae’n braf fod gwaith y pwyllgor wedi cael effaith sylweddol yn ystod yr ymchwiliad, a hynny cyn i ni ddod i gasgliadau hyd yn oed. Roeddem yn falch o ddau ddatblygiad allweddol cyn i ni gyhoeddi ein hadroddiad: yn gyntaf, ehangu rôl bwrdd gweithrediadau Llywodraeth Cymru i gynnwys yr holl ffoaduriaid a cheiswyr lloches, nid rhaglen adsefydlu Syria yn unig. Yn ail, dywedodd rhanddeiliaid wrthym, yn sgil y sylwadau a wnaed i’r pwyllgor, a chan y pwyllgor, fod ymgysylltiad ystyrlon rhwng y sector preifat a’r trydydd sector mewn perthynas â llety lloches. Felly, mae ein gwaith eisoes yn cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl.
Mae’r rhain yn gamau pwysig ac maent i’w croesawu, ond rydym yn wynebu heriau eang a chymhleth. Dyna pam y gwnaethom 19 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac mae 18 ohonynt wedi cael eu derbyn yn llawn neu mewn egwyddor.
Dirprwy Lywydd, mae’n bwysig i mi gofnodi yn y fan hon, er ein bod yn ceisio cael consensws yn ein gwaith fel pwyllgor, ar yr achlysur hwn, roedd yna un Aelod na allai gytuno ar yr adroddiad. Serch hynny, mae cytundeb y saith Aelod arall yn cynrychioli mwyafrif pwerus o blaid y newidiadau rydym am eu gweld.
Rydym wedi galw am ddiweddaru a gwella’r dull strategol. Mae hyn yn cynnwys tair prif elfen, gyda phob un ohonynt yn destun argymhelliad pwyllgor a dderbyniwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf, adolygu’r cynllun cyflawni ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches—byddwn yn ddiolchgar pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau y bydd y cynllun yn cynnwys camau gweithredu, amserlenni ac adnoddau mesuradwy yn ogystal ag arferion gorau o’r Alban, gan gynnwys safonau gwasanaeth. Yn ail, sicrhau bod y bwrdd gweithrediadau yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn agored—rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu blaenraglen waith y bwrdd gyda’r pwyllgor. Yn drydydd, paratoi ar gyfer gweithredu Deddf Mewnfudo’r DU—byddai’n ddefnyddiol gwybod lle mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyrraedd yn ei drafodaethau â rhanddeiliaid a Llywodraeth y DU ar y mater pwysig hwn.
Rydym hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru wneud mwy i hwyluso integreiddio. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno i ddiweddaru’r cynllun cydlyniant cymunedol a byddwn yn croesawu cadarnhad y bydd hyn yn cynnwys ymgyrch gyhoeddusrwydd ledled Cymru, yn debyg i’r un yn yr Alban, a wnaeth argraff ar y pwyllgor.
Ochr yn ochr â’n hargymhelliad ynglŷn â’r cynllun cydlyniant, galwasom am gamau gweithredu ar y meysydd penodol a oedd yn peri pryder i randdeiliaid. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y dylai rôl cydgysylltwyr cydlyniant cymunedol gael ei hymestyn y tu hwnt i gefnogi ffoaduriaid Syria yn unig. Awgrymodd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet nad yw rôl y cydgysylltwyr yn cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn barhaol a byddwn yn croesawu eglurhad ar hyn.
Roeddem yn cytuno â’r rhanddeiliaid mai rhwystr allweddol arall i integreiddio yw trafnidiaeth. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried ymestyn cynlluniau trafnidiaeth rhatach i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrthod yr argymhelliad hwn. Byddai’n ddefnyddiol pe gallem glywed mwy o fanylion y prynhawn yma am y rhesymau dros hynny, ac a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu mynd i’r afael â’r mater hwn mewn ffyrdd eraill.
Un maes ffocws penodol i’r pwyllgor, yn dilyn y dystiolaeth a gawsom, oedd y ddarpariaeth addysg Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill. Roeddem eisiau gweld gwelliannau ar gyfer y flwyddyn academaidd sy’n dechrau ym mis Medi. Rwy’n derbyn bod yr amserlenni tynn ar gyfer gwneud hynny wedi arwain Ysgrifennydd y Cabinet i dderbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, i’w weithredu dros gyfnod ychydig yn hwy. Byddwn yn croesawu cadarnhad ynglŷn â’r amserlenni a sicrwydd y bydd y pwyntiau manwl a wnaed gan y pwyllgor yn cael sylw.
Roedd llety lloches yn faes allweddol arall o ddiddordeb i’r pwyllgor. Galwasom am fonitro a datrys cwynion am lety lloches yn well. Argymhellwyd adolygu’r contract llety lloches cyn iddo gael ei adnewyddu nesaf. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhellion hyn mewn egwyddor, ac edrychaf ymlaen at glywed beth y mae hyn yn ei olygu’n ymarferol. Roeddem hefyd eisiau i landlordiaid ceiswyr lloches gael eu cofrestru a’u harolygu. Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn yn llawn a byddwn yn croesawu manylion ynglŷn â sut y caiff ei roi ar waith.
Galwodd y pwyllgor hefyd am welliannau i gyngor a chefnogaeth yn ystod y broses o geisio lloches. Cafodd hyn ei dderbyn mewn egwyddor. Mae cymorth effeithiol ar ôl y broses o geisio lloches yn hanfodol, i ffoaduriaid ac i’r rhai na fu eu ceisiadau am loches yn llwyddiannus. Felly, cafodd ein hargymhellion ynglŷn â hyn, yn galw am fwy o help i ffoaduriaid ddod o hyd i lety, gwell mynediad at addysg a chyflogaeth a gweithredu i atal amddifadedd, eu derbyn mewn egwyddor hefyd.