7. 7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei Ymchwiliad i Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 21 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 4:20, 21 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol am eu hadroddiad ystyriol ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Rwyf hefyd yn ddiolchgar am yr amser a roddwyd a’r ymdrech a wnaed gan y rhai sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau cefnogi ffoaduriaid i sicrhau bod y broses hon mor gynhwysfawr â phosibl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd wedi ffoi rhag rhyfel, trais ac erledigaeth yn gallu cyflawni eu potensial. Mae gan Gymru hanes balch o ddarparu noddfa i ffoaduriaid o bob cwr o’r byd, a bydd y traddodiad hwn yn parhau. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar gynorthwyo ffoaduriaid drwy ddatblygu diweddariad o’r cynllun cyflawni ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan roi ystyriaeth lawn i adroddiad y pwyllgor a’r argymhellion. Gofynnodd John Griffiths, a gadeiriodd y pwyllgor yn fedrus, ‘Pa bryd fydd hyn yn digwydd?’ Byddwn yn ymgynghori ar y cynllun drafft yn yr hydref, gan gynnwys y ffoaduriaid a’r ceiswyr lloches yn y broses honno.

Dirprwy Lywydd, ni allwn anwybyddu’r ffaith fod llawer o’r cyfrifoldeb sy’n ymwneud â pholisi lloches wedi’i gadw’n ôl i Lywodraeth y DU, ac mae hyn yn golygu mai Llywodraeth y DU a ddylai weithredu’r atebion i rai o’r problemau pwysig a heriol a godwyd gan y pwyllgor. Byddwn yn gweithio gyda hwy i gyflawni hyn, er enghraifft drwy drafod atebion posibl i wella pethau yma yng Nghymru, ac mae hyn yn cynnwys safon llety lloches, proses gwynion annibynnol, argaeledd rhagor o gyllid ar gyfer trafnidiaeth, llythyrau atgoffa mewn perthynas â sgrinio iechyd a ffyrdd o osgoi amddifadedd ymhlith ceiswyr lloches a ffoaduriaid newydd. Yn wir, Bethan Jenkins, rydym wedi cael llawer o ohebiaeth ynglŷn â chyflwr peth o’r llety a oedd yn gwbl warthus o ystyried bod disgwyl i bobl fyw ynddo.

Rydym hefyd yn rhoi camau ar waith ein hunain ac yn buddsoddi mewn cymorth sylweddol ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yma yng Nghymru, ac mae hyn yn cynnwys oddeutu £1 filiwn dros y tair blynedd nesaf, o dan y rhaglen Hawliau Lloches, a bydd y gwaith hwn, dan arweiniad Cyngor Ffoaduriaid Cymru a’u partneriaid, yn darparu cyngor a chefnogaeth o ansawdd i ffoaduriaid a cheiswyr lloches mewn ystod eang o amgylchiadau. Rwyf hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer adsefydlu plant agored i niwed o dan gynllun Dubs, ac rwyf finnau hefyd, fel Julie Morgan, wedi fy siomi fod Llywodraeth y DU wedi cau’r cynllun hwnnw. Bydd hyn yn cefnogi gwaith i feithrin gallu mewn adrannau gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau y gallant ymateb i anghenion y plant hyn, a phlant yw’r plant hyn, fel y nododd Suzy Davies.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid ar gyfer y Prosiect Tai i Ffoaduriaid i gynorthwyo unigolion sydd wedi cael statws ffoadur i integreiddio i gymdeithas Cymru. Buddsoddwyd cyllid ychwanegol yn ddiweddar i hyfforddi clinigwyr iechyd meddwl i drin anhwylder straen wedi trawma mewn ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n blant ac yn oedolion. Cynhyrchodd y pwyllgor nifer o argymhellion yn ymwneud â materion datganoledig, ac fe nodaf y rhain yn awr.

Rwy’n cydnabod pryder y pwyllgor ynglŷn ag ymddangosiad system ddwy haen ers cyflwyno rhaglen ffoaduriaid Syria. Byddwn yn gwneud popeth a allwn i leihau hyn, gan weithio i sicrhau bod pob ffoadur yn gymwys i gael mynediad at gynlluniau integredig yng Nghymru, er ein bod yn cael ein cyfyngu, unwaith eto, gan amodau cyllido Llywodraeth y DU. Mae’n rhaid i ni weithio o fewn y cyfyngiadau hynny, ond byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i helpu yn hynny o beth.

Rydym eisoes wedi ehangu cylch gwaith tasglu a bwrdd gweithrediadau Cymru ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a byddwn yn gofalu ein bod yn sicrhau bod unrhyw gynlluniau a chanllawiau a gynhyrchwn, gan gynnwys y cynllun cyflawni a’r cynllun cydlyniant cymunedol, yn addas ar gyfer amgylchiadau’r holl grwpiau ffoaduriaid cyn belled ag y bo modd.

Rydym yn cydnabod hefyd fod darparu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill yn hanfodol ar gyfer integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a byddwn yn diweddaru’r polisi Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill erbyn mis Mawrth 2018 ac yn gweithio gyda chydgysylltwyr Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru i fapio darpariaeth ffurfiol ac anffurfiol a nodi rhwystrau, ac atebion yn wir, i sicrhau mynediad at ddysgu.