Part of the debate – Senedd Cymru am 5:59 pm ar 21 Mehefin 2017.
Roeddwn i eisiau siarad yn fyr yn y ddadl hon i apelio ar yr holl Aelodau yma ac ar bawb a allai fod ag uchelgais i ddod yn Aelod etholedig yn y dyfodol.
Mae llawer wedi cael ei ddweud am fewnfudo ac mae llawer o bobl yn y ddadl ar fewnfudo yn drysu rhwng ffoaduriaid a hawl pobl i symud yn rhydd mewn ffordd nad yw’n ddefnyddiol. Mae’r modd y digwyddodd y ddadl hon, mewn rhai achosion, wedi gadael blas cas iawn yn y geg, yn enwedig y ffordd y cafodd mewnfudo ei gynrychioli yn ystod y ddadl ar refferendwm yr UE. Cyfeiriaf yma at y poster gwenwynig a oedd yn dwyn i gof un o bosteri gwrth-ffoaduriaid o’r Almaen yn y 1930au. Os gosodwch y ddau boster ochr yn ochr, mae’r tebygrwydd yn hynod. Eto i gyd nid oedd statws ffoaduriaid byth yn destun trafod yn refferendwm yr UE. Ni fydd tynnu allan o’r UE yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’n rhwymedigaethau rhyngwladol i ddarparu lloches i’r rhai sy’n ffoi rhag rhyfel neu erledigaeth, a byddai rhoi’r argraff y byddai yn gamarweiniol ar ei orau, ac yn bropaganda dieflig ar ei waethaf. Ac mae canlyniadau i dôn y ddadl hon. Rwy’n siŵr fod pawb yn y Siambr hon yn teimlo cymaint o siom a ffieidd-dod â minnau o glywed y newyddion am ddyn a oedd wedi symud i Gaerdydd yn gyrru fan wedi’i llogi i mewn i grŵp o bobl y tu allan i fosg yn Llundain. Digwyddiad ofnadwy, rwy’n siŵr y byddai pawb yn cytuno. Ac mae’n rhaid i bawb ohonom ymrwymo i leihau’r tebygolrwydd y bydd rhywbeth felly’n digwydd eto.
A hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn y prynhawn yma i ddweud hyn wrth bob un o’n cymdogion Mwslimaidd: gwyddom y byddai’r mwyafrif helaeth ohonoch yn ffieiddio eithafiaeth dreisgar lawn cymaint â ninnau, ac rwy’n siŵr eich bod yn pryderu yn yr hinsawdd bresennol. Cred Plaid Cymru fod yn rhaid i bawb weithio gyda’i gilydd i ddiwreiddio eithafiaeth dreisgar o’n cymunedau ac i greu’r amodau lle y gallwn i gyd fyw gyda’n gilydd fel cymdogion da heb ofn a heb gasineb. Ond ni allwn wneud hynny os yw gwleidyddion a darpar wleidyddion yn rhoi gwybodaeth ffug, yn defnyddio propaganda Natsïaidd ei naws i wneud eu pwyntiau, ac yn siarad mewn tôn yn y ddadl hon sy’n tanio ofnau, casineb a rhagfarn pobl. Un Gymru ydym ni. Mae pawb sy’n byw yma yn haeddu parch ac yn haeddu cael eu cynnwys yn ein cymdeithas ac yn ein cymunedau. Dylai pob un ohonom deimlo’n ddiogel wrth i ni fyw ein bywydau o ddydd i ddydd. Dylai pobl liw allu byw heb hiliaeth. Dylai Mwslimiaid allu byw heb Islamoffobia.
Nid wyf wedi enwi enwau yma y prynhawn yma. Rydym i gyd yn gwybod pa dôn y cyfeiriaf ati, ac yn anffodus, nid yw wedi’i chyfyngu i un blaid wleidyddol benodol. O ble bynnag y daw, mae rhai pobl yn dilyn arweiniad gwleidyddion. Mae’n rhaid i bawb ohonom fod o ddifrif ynglŷn â’r cyfrifoldeb hwnnw ac rwy’n apelio ar wleidyddion ym mhob man i ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwnnw.