Part of the debate – Senedd Cymru am 6:02 pm ar 21 Mehefin 2017.
Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n ymateb i’r ddadl hon y prynhawn yma ac rwyf am ddechrau drwy ddweud pa mor bwysig yw ymfudo wedi bod, fel rhan mor bwysig o hanes Cymru a bydd yn rhan bwysig o’n dyfodol heddiw, a chredaf fod hynny’n sicr wedi ei adlewyrchu yn y cyfraniadau o rannau o’r Siambr hon heddiw. Mae wedi ei adlewyrchu i raddau helaeth yn y Papur Gwyn a gyflwynwyd gennym ar y cyd â Phlaid Cymru, a bydd llawer o’r hyn rwy’n ei ddweud yn fy ymateb yn seiliedig i raddau helaeth ar y Papur Gwyn. Mae dinasyddion o wledydd eraill sy’n byw yng Nghymru yn gwneud cyfraniadau enfawr i’n heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus a’n cymunedau, a chlywsom ychydig am hynny, blas o hynny, yn y ddadl ysbrydoledig yn gynharach ar ffoaduriaid yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae’n rhaid inni ddweud hefyd—ac rwy’n cefnogi sylwadau agoriadol Steffan ar y pwynt wrth gynnig ei welliant yn fawr iawn—ei bod yn hanfodol fod hawliau dinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd sydd yn y DU ar hyn o bryd yn cael eu diogelu. Rydym wedi bod yn galw dro ar ôl tro am hynny fel Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag am hawliau dwyochrog i ddinasyddion y DU yng ngwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.
Rydym yn cydnabod bod angen i ni reoli ymfudo, fel y dywedodd Jeremy Miles, drwy gysylltu ymfudo yn agosach â chyflogaeth, gan gynnig hyblygrwydd, a chefnogi ein huchelgais am fynediad llawn a dirwystr at y farchnad sengl Ewropeaidd. Ac mae camfanteisio ar ein gweithlu, wrth gwrs, yn fater allweddol a phwysig i’w drafod yn y Cynulliad hwn. Mae gormod o weithwyr yn cael eu hecsbloetio gan gyflogwyr diegwyddor, gan danseilio lefelau cyflog a thelerau ac amodau i’r holl weithwyr, ac rydym yn cydnabod y gall mewnfudwyr fod yn arbennig o agored i hyn. Ond nid mewnfudo yw’r mater y mae angen i ni fynd i’r afael ag ef yma ond camfanteisio, ac wrth gwrs, gall Llywodraeth y DU wneud llawer mwy i fynd i’r afael â chamfanteisio gan gyflogwyr nad ydynt yn talu isafswm cyflog neu sy’n amddifadu gweithwyr o’u hawliau statudol, ac mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud yr hyn a all i sicrhau cydymffurfiaeth â chyfreithiau llafur, ac mae’r rhain yn faterion pwysig i’w trafod. Er enghraifft, mae ein cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi yn nodi ein disgwyliadau clir i gyflogwyr ledled Cymru ymgorffori arferion gwaith moesegol yn eu sefydliadau a rhoi’r gorau i gamfanteisio ar lafur. Dylid nodi, wrth gwrs, fod gennym lefelau llawer is o ymfudwyr yng Nghymru na’r rhan fwyaf o rannau eraill y DU, ac mae llawer o bobl sydd wedi dewis byw a gweithio yng Nghymru yn chwarae rhan allweddol yn darparu ein gwasanaethau cyhoeddus. Yn y GIG yng Nghymru yn unig, mae dros 1,300 o staff ymroddedig yn dod o’r UE. Yn wir, daw 7 y cant o’r holl feddygon yng Nghymru o’r UE. Ond hefyd ceir llawer o bobl a aned dramor sy’n gweithio yn ein sectorau economaidd allweddol ac sy’n chwarae rôl yn llwyddiant ein sefydliadau academaidd—roedd Andrew R.T. Davies yn cydnabod hyn—o ran ymchwil yn ein prifysgolion. Dyma bobl rydym yr un mor awyddus i’w gweld yn aros yng Nghymru ac yn dod i fyw a gweithio yng Nghymru yn y dyfodol.
Yn amlwg, rydym am sicrhau bod pobl yng Nghymru yn gallu cael mynediad at swyddi o ansawdd uchel ac i wneud hynny, ein bod yn darparu’r cymorth sydd ei angen arnynt yn yr ysgol neu yn nes ymlaen mewn bywyd i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael mynediad at y cyfleoedd hyn. Felly, rydym yn gwneud hynny drwy’r blaenoriaethau sgiliau a nodir yn ‘Symud Cymru Ymlaen’, sy’n cynnwys cynorthwyo pobl sy’n chwilio am sgiliau cyflogadwyedd, creu cyfleoedd prentisiaeth a hyrwyddo arloesedd a chysylltedd. Lle mae prinder sgiliau a bylchau sgiliau, bydd ein gweithredoedd yn helpu i fynd i’r afael â’r rhain yn y tymor hwy. Ond yn y tymor byr, mae angen i ni allu recriwtio staff o dramor i lenwi swyddi gwag allweddol.
Gofynnodd UKIP i ni nodi papur gwaith Banc Lloegr. Efallai bod ei ganfyddiadau’n berthnasol, ond mae’n rhaid eu hystyried yn y cyd-destun ehangach. Byddwn hefyd yn tynnu sylw at bapur Ysgol Economeg Llundain, y mae eich gwelliant, Steffan Lewis, yn ymateb iddo, oherwydd mae’n werth ailadrodd yr hyn a ddywedodd Steffan Lewis. Daeth y papur i’r casgliad nad oes unrhyw effeithiau negyddol mawr iawn ar gyflogaeth, cyflogau ac anghydraddoldeb cyflog i’r boblogaeth a aned yn y DU. Ond byddwn hefyd yn tynnu sylw at yr adroddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a oedd yn dangos bod mewnfudo yn creu budd net i gyllid cyhoeddus.
Ond byddwn yn hefyd yn hoffi gwneud pwynt am y ffactorau y credaf y dylai UKIP fynd i’r afael â hwy. Tynnaf sylw at y ffactorau sy’n effeithio llawer mwy ar enillion pobl, megis chwyddiant, sydd ar ei bwynt uchaf ers blynyddoedd, a briodolwyd gan Fanc Lloegr i ddibrisio sterling a’r cyfnod cyn y refferendwm y llynedd a’r canlyniad wedyn. Mae caledi ariannol, unwaith eto, yn arwain at wasgfa ddifrifol iawn ar gyflogau’r sector cyhoeddus. Mae diffyg buddsoddi mewn seilwaith yn nodwedd nodedig arall o bolisïau caledi ariannol Llywodraeth y DU, gan wanhau cynhyrchiant, a hynny, yn ei dro, yn arwain at lai o gynnydd mewn cyflogau. Bydd yr isafswm cyflog y deddfwyd ar ei gyfer a’r ffordd y caiff ei orfodi hefyd yn dylanwadu ar lefelau cyflogau a thwf, ac mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi’i hachredu fel cyflogwr cyflog byw gan y Sefydliad Cyflog Byw. Mae’r GIG yng Nghymru wedi bod yn talu cyflog byw go iawn i’w holl weithwyr ers 2015, ac rydym yn hyrwyddo manteision y cyflog byw go iawn yn fwy eang ar draws y sector cyhoeddus a’r economi. Mae’n rhan o’n cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu dull o weithredu sy’n cynnwys ffocws ar ymfudo sy’n gysylltiedig â chyflogaeth, gyda chefnogaeth cyfreithiau llafur cryf a mwy o gyfleoedd i bawb. Rydym yn credu mai dyma’r opsiwn gorau ar gyfer ein heconomi ehangach a’n gweithlu, a’i fod yn rhoi’r opsiynau gorau i’r DU wrth iddi gychwyn ar drafodaethau. Mae yna agweddau ar welliannau’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru y gallwn gytuno â hwy, sy’n cymeradwyo’r dull hwn o weithredu.
Yn olaf, Llywydd, rwy’n meddwl y byddwn yn dweud y byddai wedi bod yn dderbyniol pe bai UKIP wedi manteisio ar y cyfle nid yn unig i groesawu’r gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chamfanteisio ein gweithlu o ble bynnag y daw, ond hefyd i ymuno â ni i alw am roi terfyn ar y cyfnod o galedi, cyflogau isel a’r cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus, sydd oll yn dal i gael eu gwthio gan Lywodraeth Geidwadol, sy’n golygu bod ein gweithlu sector cyhoeddus wedi cael eu dal mewn cyfnod o gynnydd cyfyngedig mewn cyflogau ers saith mlynedd. Rwy’n ofni bod y ddadl hon yn datgelu rhaniadau sydyn yn y Senedd hon gyda’r wleidyddiaeth a arddelir gan UKIP, sy’n ffiaidd i’r rhan fwyaf o bobl yn y lle hwn. Rwy’n credu, Llywydd, bod hon yn wythnos pan ydym yn dathlu cyfraniad ffoaduriaid yng Nghymru, ac mae’n berthnasol i’r ddadl hon yn dilyn dadl ysbrydoledig y prynhawn yma ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, dadl am y cyfraniad y mae ffoaduriaid yn ei wneud ac eisiau ei wneud, a’r ffyrdd y ceisiwn eu cynorthwyo i wneud hynny. Mae’n drist iawn fod y ddadl honno, y ddadl ysbrydoledig iawn honno, wedi’i dilyn gan drafodaeth lle y gwelir gwir natur safbwyntiau ymrannol a negyddol UKIP unwaith eto. Roedd Jeremy Miles yn iawn i dynnu sylw at hanes UKIP yn hyn o beth, fel roedd Leanne Wood yn wir.
Byddwn yn dweud, yn olaf, fod y cynnig hwn yn mynd yn groes i raen gwerthoedd a safbwynt gwleidyddol y rhan fwyaf o bobl yn y Cynulliad hwn a’r bobl rydym yn eu cynrychioli yng Nghymru. Fe all Cymru fod yn noddfa. Gall fod yn wlad groesawgar gydag economi sy’n ffynnu. Byddwn yn dadlau gydag UKIP, ond ni fyddwn byth, byth, byth yn cytuno â’r safbwyntiau anwybodus a rhagfarnllyd y mae UKIP yn eu datgan heddiw. Rwy’n eich annog i gefnogi ein gwelliant.