Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 27 Mehefin 2017.
Wel, rydym ni’n sôn am rai pethau fanna sydd ddim yn cael eu cefnogi gan y Llywodraeth, sef yr arena yng Nghaerdydd a’r arena yn Abertawe. Ond, mae’n codi’r pwynt ynglŷn â’r Cae Ras. Rydym ni’n moyn sicrhau bod y Cae Ras yn datblygu yn y pen draw. Mae’n hollbwysig, wrth gwrs, fod cynlluniau yn dod o’r Cae Ras ei hunan, er mwyn inni allu gweld ym mha ffordd y gallwn ni gefnogi hynny. Allwn ni ddim, wrth gwrs, sefydlu ein cynlluniau ein hunain heb weithio gyda’r rheini sydd yn y dref a’r ardal eang. Rwy’n gwybod bod ymddiriedolaeth cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi rhoi adroddiad i swyddogion Llywodraeth Cymru er mwyn symud y broses hon ymlaen, ac rydym ni’n awyddus i weithio gyda nhw.