Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 27 Mehefin 2017.
Wel, cwestiwn amserol iawn gan yr Aelod, gan fy mod i’n gweld bod yr arian hwnnw wedi cael ei roi ar gael ar gyfer prosiectau penodol i Weithrediaeth Gogledd Iwerddon, ac nid yw Cymru wedi cael ei thrin yn yr un modd. Byddem yn fwy na balch o fwrw ymlaen gyda mwy o fesurau ar yr A55 i leihau tagfeydd pe byddem ni ond yn y sefyllfa lle’r oedd gennym ni Aelodau DUP y gellid eu prynu gan y Llywodraeth Geidwadol.