Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 27 Mehefin 2017.
Diolch am yr ateb, Prif Weinidog. Dywedodd adroddiad diweddar gan Estyn y dylai colegau wneud mwy i baratoi pobl ifanc ag anableddau dysgu ar gyfer byw'n annibynnol. Canfuwyd ganddynt mai dim ond ychydig sy’n gosod nodau realistig i helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a gwaith, a galwyd ar golegau i osod cynlluniau dysgu unigol ac i gynllunio rhaglenni sy'n herio mwy ar ddisgyblion. Pa gamau wnaiff Llywodraeth Cymru eu cymryd o ystyried canfyddiadau Estyn i helpu a chynorthwyo myfyrwyr ag anableddau dysgu i wireddu eu potensial llawn mewn bywyd?