Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 27 Mehefin 2017.
Wel, sefydlwyd y grŵp cynghori ar anableddau dysgu yn 2012. Ei ddiben yw hysbysu polisi anableddau dysgu yng nghyd-destun Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac i roi cyngor i Weinidogion Cymru ar faterion anableddau dysgu. Mae'r grŵp yn cynnwys pobl ag anableddau dysgu, sefydliadau trydydd sector sy'n gweithio yn y maes, a chynrychiolwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Ochr yn ochr â hynny, mae cynllun gweithredu strategol ar anableddau dysgu yn cael ei ddatblygu, yn dilyn yr adolygiad o anableddau dysgu sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd.