<p>Ardrethi Busnes </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 27 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:14, 27 Mehefin 2017

Ddydd Sadwrn, roeddem ni’n lansio dau gynllun ynni dŵr yn Arfon, sef Ynni Padarn Peris ac Ynni Ogwen. Mae Ynni Anafon yn weithredol yn barod ac rydw i’n falch iawn bod gennym ni dri chynllun sydd yn harneisio un o’n hadnoddau naturiol mwyaf dibynadwy ni, sef dŵr, a bod yr elw sy’n cael ei greu yn cael ei wario ar brosiectau yn y gymuned ac yn dod â manteision i bobl leol. Ond, yn anffodus, mae’r broses o ailbrisio trethi wedi creu pryder mawr yn y sector yma ac yn debygol o rwystro datblygiadau i’r dyfodol. Mae’r Alban wedi mynd ati i gyflwyno pecyn rhyddhad trethi ar gyfer cynlluniau o’r fath, gan ddangos yn glir eu cefnogaeth nhw i’r sector yma. A fedrwch chi ymrwymo y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno pecyn tebyg a fydd yn rhoi gwell sicrwydd i gynlluniau ynni cymunedol ar draws Cymru?