Part of the debate – Senedd Cymru am 6:34 pm ar 27 Mehefin 2017.
Ac felly, rŷm ni’n cyrraedd yr eitem olaf ar yr agenda, sef y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, rydw i’n symud yn syth i’r cyfnod pleidleisio ar y ddadl ddatgarboneiddio yn y sector cyhoeddus. Gwelliant 1—rydw i’n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. Deg o blaid, saith yn ymatal, 30 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.