Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 27 Mehefin 2017.
A gaf i ddiolch i'r Aelodau, Dirprwy Lywydd, am y sylwadau y maent wedi'u gwneud? Pe gallwn ddechrau gydag arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ysgrifennais i yma mewn ymateb i'w sylwadau cyntaf, 'Beth sydd arno ei eisiau?'. Fe aeth yn ei flaen i ddweud beth oedd arno ei eisiau: Bil lleoliaeth a dinasyddiaeth, Bil diogelwch economaidd a Bil hawliau pobl. Does gen i ddim syniad beth y maent yn ei olygu, ond, serch hynny, rwy'n siŵr y bydd yn gwneud hynny'n glir yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.
Un o'r pethau, wrth gwrs, y bydd yn rhaid inni sylweddoli yw y bydd Brexit yn dominyddu. Mae nifer o siaradwyr wedi gwneud y pwynt hwn. Bydd yn rhaid inni wneud lle ar gyfer deddfwriaeth sy'n gysylltiedig â Brexit—llawer iawn o le, yn ogystal, rwy’n amau, yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf, ac, yn wir, y tu hwnt i hynny. Mae hynny'n rhywbeth y bydd angen ei ystyried yng ngoleuni datganiad deddfwriaethol y flwyddyn nesaf.
Mae'n gwneud y pwynt am yr asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae'n iawn i ddweud bod pryderon wedi'u codi ynghylch cadernid yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Mae adolygiad o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi digwydd, a bydd yna fersiwn ddiwygiedig yn yr hydref. Gwelwyd, wrth gwrs, bod craffu ar hynny wedi cyflwyno materion i’r Llywodraeth y mae angen i'r Llywodraeth fynd i'r afael â nhw, ac mae hynny'n iawn, yn rhan o'r broses graffu.