Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 27 Mehefin 2017.
Dirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar am yr amser a ganiatawyd ar gyfer y ddadl frys heddiw mewn ymateb i'r amgylchiadau cwbl eithriadol a grëwyd gan gytundeb Llywodraeth y DU â'r Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd. Daeth telerau'r cytundeb i gynnal Llywodraeth leiafrifol yn Llundain i'r amlwg ddoe a bydd yr Aelodau'n gyfarwydd â'r manylion, ond, yn y bôn, mae Llywodraeth y DU wedi clustnodi bron i £1 biliwn dros y ddwy flynedd nesaf i Ogledd Iwerddon, a llawer mwy yn y blynyddoedd wedi hynny, a byddant yn cael mwy tu hwnt i hynny, rwy’n amau, fel pris cefnogaeth gan y DUP er mwyn cadw'r Llywodraeth Geidwadol ar ei thraed. Yn gyfnewid, bydd y DUP yn cefnogi Araith y Frenhines, Biliau ariannol, a deddfwriaeth ymadael yr UE. Rydym yn clywed y caiff y cytundeb ei oruchwylio gan bwyllgor cydlynu wedi’i gadeirio gan Lywodraeth y DU.
Dirprwy Lywydd, hwn yw’r cytundeb gwleidyddol mwyaf dinistriol o fewn cof. Mae'n annheg, yn anghywir ac yn gyrydol. Dim ond yr wythnos diwethaf, dywedwyd wrthym mai blaenoriaeth Prif Weinidog y DU oedd adeiladu gwlad fwy unedig, gan gryfhau'r rhwymau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol rhwng Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru. Wel, mae’r cytundeb hwn yn tanseilio’r union egwyddorion o degwch ac undod sy’n sylfaenol i’r DU.
Mae’n rhaid dosbarthu refeniw ledled y DU mewn modd tryloyw, yn unol ag egwyddorion a rheolau sefydledig sydd ar gael i'r cyhoedd, gan esbonio'n llawn a chyfiawnhau unrhyw wyriad oddi wrth y rheolau hynny. Ni ddylid symud ymlaen ar sail mantais wleidyddol yn y tymor byr. Er ei holl ddiffygion, mae gennym, i fod, ryw fath o system sy'n seiliedig ar reolau o gwmpas fformiwla Barnett. Nawr, fel y bydd yr Aelodau’n gwybod yn iawn, nid wyf i’n cefnogi Barnett. Mae, ar y gorau, yn amherffaith a dylid ei disodli â system fwy gwrthrychol sy’n dosbarthu adnoddau ar sail angen. Ond, am y tro, dyna’r cyfan sydd gennym.