Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 27 Mehefin 2017.
Mae'r cytundeb â’r DUP yn cadw Theresa May mewn grym drwy gytundeb hyder a chyflenwi, ac mae maint a chwmpas y cytundeb yn ddigynsail—£1.5 biliwn, gan gynnwys £1 biliwn o arian newydd, a hyblygrwydd o £500 miliwn o gyllid presennol, heb unrhyw arwydd o ble y mae'r arian hwnnw yn dod. Wel, efallai ei fod yn hud. Maent wedi anwybyddu fformiwla Barnett yn gyfan gwbl, ac rydym yn amcangyfrif bod cost hyn i Gymru yn £1.7 biliwn, ac mae hynny ar ôl toriadau i grant bloc y Cynulliad hwn o—faint? Rydych wedi ei ddyfalu: £1.7 biliwn, yn ôl Llywodraeth Cymru, o ganlyniad i gyni ariannol. Mae hwn yn arian sydd ei angen ar Gymru. I roi halen ar y briw, mae’r Torïaid yn dweud wrthym bod ein hariannu gwaelodol a’n bargeinion dinesig rywsut yn debyg i’r swm enfawr hwn, er bod y bargeinion dinesig yn cynnwys arian sector cyhoeddus Cymru, o’r Llywodraeth yma ac o awdurdodau lleol, ac er bod y llawr cyllid wedi digwydd yn fwy drwy ddamwain na drwy fwriad.
Ar wahân i'r effaith benodol ar Gymru, mae'n rhaid inni ystyried ble mae hyn yn gadael y DU fel gwladwriaeth yng ngoleuni trafodaethau Brexit. A yw'r trafodwyr ym Mrwsel yn edrych ar lywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn gweld sefyllfa sy'n gryf ac yn sefydlog? Annhebygol, byddwn i'n dweud.
Ond dewch inni droi at sefyllfa Cymru yn hyn i gyd. Dylai pobl yng Nghymru fod yn fwy na rhwystredig am y fargen hon; dylent fod yn flin. Mae Cymru bob amser wedi bod yn drydydd yn y ciw, y tu ôl i Ogledd Iwerddon a'r Alban, o ran pwerau a chyllid. Dyw hi ddim fel pe bai angen arian ychwanegol ar y wlad hon. Hon yw’r wlad sydd wedi gwneud y lleiaf o ffwdan. Ni fu’r dawelaf o holl wledydd y DU, ac ni sydd wedi ymddwyn orau. Nid ydym erioed wedi cyffroi’r dyfroedd, ac mae hynny wedi golygu ein bod wedi cael ein gadael ar ôl, ein hanwybyddu. Rydym—ac rwy’n golygu y Cynulliad yn ei gyfanrwydd, nid unrhyw un blaid wleidyddol—newydd benderfynu, yn eithaf hwyr, y dylem gynnal ein heddlu ein hunain, y dylai fod gennym ein hawdurdodaeth gyfreithiol ein hunain, ac mae wedi cymryd blynyddoedd lawer inni gyrraedd y consensws hwnnw ar ôl i Ogledd Iwerddon a'r Alban sefydlu’r agweddau hynny ar eu democratiaeth. Rydym yn edrych fel nad ydym wedi bod yn ein parchu ein hunain na’n sefydliad cenedlaethol, felly does ryfedd nad ydym yn cael ein parchu yn San Steffan.
Nid yw'r sefyllfa bresennol a'r ffordd yr ydym wedi bod yn gwneud pethau wedi creu rhyw lawer o drosoledd. Nid yw Llywodraethau yn San Steffan yn gweld unrhyw awydd go iawn am newid cyfansoddiadol o Gymru. Mae Swyddfa Cymru, sydd wedi’i hail-frandio nawr fel Llywodraeth y DU Cymru, yn gwneud yr hyn mae'n ei ddweud ar y tun: gweithredu fel llefarydd dros San Steffan yng Nghymru, nid fel llais dros Gymru yn San Steffan. Rhaid i hynny newid, a dyna pam yr wyf yn galw ar bob un AS Torïaidd i sefyll gyda Chymru i bleidleisio yn erbyn Araith y Frenhines oni bai a hyd nes y gallant gael arian ychwanegol i’n gwlad ni, hefyd. Os na allant wneud hynny, byddant yn siomi Cymru, ac maent yn haeddu talu pris trwm am hynny.
Mae angen i bob un o'r pleidiau gwleidyddol yma ystyried sut y gallwn newid y sefyllfa hon. Nid dim ond mater o’n cyfansoddiad ni ydyw. Mae effeithiau’r gwendid gwleidyddol hwn i’w gweld o'n cwmpas i gyd, yn ein seilwaith a'n heconomi. Mae'n warth ein bod yn un o ddim ond tair gwlad yn Ewrop heb ddim rheilffordd wedi'i thrydaneiddio, ynghyd â Moldofa ac Albania. A phan fydd trydaneiddio yn digwydd yn y pen draw bydd flynyddoedd yn ddiweddarach nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon—symbol amlwg o ble yr ydym yn y drefn flaenoriaeth honno.
Nawr, nid wyf yn dweud dim o hyn er mwyn bychanu Cymru. Rwy'n dweud hyn oherwydd bod fy uchelgais ar gyfer y wlad hon yn ddi-ben-draw. Mae ein potensial yn enfawr. Nid yw wedi'i ddatgloi na’i ryddhau eto. Ond wrth gondemnio’r cytundeb hwn, rhaid inni hefyd ddysgu’r gwersi.