9. 9. Dadl Frys: Cytundeb ‘Hyder a Chyflenwi’ Llywodraeth y DU a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:27 pm ar 27 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 6:27, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, mae'n iawn ein bod wedi cael y ddadl hon y prynhawn yma, er mwyn i Aelodau roi eu barn. A gaf ddweud, cyn imi ymdrin ag arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, bod yr areithiau a roddwyd gan David Melding a gan Angela Burns yn llawer agosach at y math o araith arweinydd y byddwn wedi ei disgwyl gan rywun sy'n arwain un o bleidiau gwleidyddol mwyaf Cymru? Dyna gyferbyniad rhwng eu cyfraniadau meddylgar a'r gweiddi a welsom gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Dewch inni beidio ag esgus bod hyn yn ddim byd ond yr hyn ydyw. Bwng ydyw; llwgrwobr; arian am bleidleisiau. Mae hyn yn enghraifft o Lywodraeth y DU yn dweud bod yn rhaid i Barnett aros, ond yn dweud ei bod yn hwylus anwybyddu Barnett pan fydd Llywodraeth y DU yn barnu bod hynny’n addas—mewn geiriau eraill, i’w helpu eu hunain. Maent wedi dechrau datod un o'r rhwymau sy'n dal pedair gwlad y DU at ei gilydd, sef cyllid teg. Os nad yw'r DU o blaid cyllid teg i’w gwledydd a’i rhanbarthau cyfansoddol, beth sydd ar ôl iddi? Does bosib nad yw’r undod hwnnw’n rhywbeth y dylem ei werthfawrogi ac yn rhywbeth na ddylid ei roi i ffwrdd—ei wastraffu, yn wir—yn ddiangen. Mae'n siŵr gen i, i Theresa May, nad yw’n gymaint o fater o egwyddor, ond os yw'r het bowler yn ffitio, ei gwisgo—o ystyried y bobl y mae hi wedi bod yn ymdrin â nhw.

Roeddwn yn disgwyl mwy gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Mae ef yn rhywun sydd â chroen trwchus. Hynny yw, cafodd ei gicio oddi ar ddadleuon yng nghanol yr ymgyrch etholiadol, a chafodd ei gicio allan o'i lansiad maniffesto ei hun, rhywbeth yr ydym yn dragwyddol ddiolchgar amdano, oherwydd newidiodd hynny’r etholiad, yn ein barn ni. Yr araith a wnaeth Theresa May yn Wrecsam a drodd lanw’r etholiad. Nid yw'n cael mynychu Cabinet y DU. Mae Ruth Davidson, arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, yn cael gwneud hynny. Rwyf bron yn teimlo trueni drosto erbyn hyn, ac eto mae'n dweud wrthym ei fod wedi bod yn siarad â'r bobl sy'n cyfrif. Wel, nid oes unrhyw ganlyniadau erioed wedi bod yn y gorffennol; ni fydd dim canlyniadau yn y dyfodol. Sut y gall ef amddiffyn sefyllfa lle mae mwy o arian yn cael ei ddarparu ar gyfer iechyd meddwl yng Ngogledd Iwerddon, nid yng Nghymru; mwy o arian yn cael ei ddarparu ar gyfer addysg yng Ngogledd Iwerddon, nid yng Nghymru; mwy o arian yn cael ei ddarparu ar gyfer pwysau iechyd yng Ngogledd Iwerddon, nid yng Nghymru? Mae ei gydweithwyr, ac rwy’n rhoi clod iddynt am hyn—wedi nodi bod hynny’n broblem ac yn fater, ac maent wedi dweud y byddent yn ymladd i newid pethau. Ni allodd ef wneud hynny. Dywedodd y byddai'n sefyll dros Gymru. Mae wedi methu â gwneud hynny y tro hwn. A allwn ei annog hefyd i sôn am y mater hwn gyda'i gydweithwyr seneddol? Mae wyth ohonynt. Mae ganddynt lais pwerus. Mae ganddynt lais gwirioneddol rymus, yr wyth ohonynt. Gallent ddweud wrth Theresa May nad yw hyn yn dderbyniol, o ran Cymru, ac y dylai Barnett ddal i fod yn berthnasol. Gadewch iddynt nawr ddechrau siarad dros Gymru yn hytrach na bod yn wyth didaro fel y maent wedi bod yn ystod y rhai wythnosau diwethaf.

A gaf i ddweud, o ran y—? Os caf i droi at David Melding hefyd, mae bob amser werth gwrando ar David, a gwnaeth rai pwyntiau perthnasol iawn. Gwnaeth y pwynt y dylid defnyddio fformiwla Barnett ag o leiaf rhywfaint o'r arian hwn. Nawr, o fy safbwynt i, nid wyf yn gwarafun yr arian i Ogledd Iwerddon, ond rwy’n dweud os dylai Gogledd Iwerddon gael arian ychwanegol, dylai Cymru, yr Alban, a rhanbarthau Lloegr gael rhagor hefyd. Y gwirionedd yw, fel y dywedodd arweinydd Plaid Cymru, bod cyni wedi dod i ben yng Ngogledd Iwerddon, ond nid yng Nghymru, Lloegr, a'r Alban, er mai trethdalwyr cenhedloedd Prydain Fawr sy’n talu am ddod â chyni i ben. Pam y dylent dalu am rywbeth nad ydynt yn cael budd ohono? Mae hynny'n rhywbeth y byddant yn ei ofyn. Oherwydd ni ddylem danbrisio'r dicter y mae tair gwlad Prydain Fawr wedi ei deimlo am y cytundeb hwn. Os oedd angen taro bargen, ni ddylid bod wedi taro’r fargen honno ar draul gwerthu Lloegr, yr Alban, a Chymru i lawr yr afon. Mae hynny'n rhywbeth sy'n rhannu'r DU yn hytrach na’i huno.

Nawr, fel y dywedodd Simon Thomas—ac rwy’n croesawu’r ffordd y mae wedi dyrannu’r cytundeb ei hun yn fforensig—mae arian yma ar gyfer prosiectau y byddai’n rhaid inni dalu amdanynt ein hunain fel arfer. Rwy'n gwybod am gyfnewidfa York Street, fel y mae'n digwydd. Mae'n broblem draffig ofnadwy yng nghanol Belfast. Mae'n cyfateb i dwnnel Brynglas neu rai o'r problemau ar yr A55 yma, ac eto ni sy’n gorfod talu am y prosiectau hynny. Does dim arian ychwanegol i Gymru i dalu am y prosiectau seilwaith hynny, er mor bwysig ydynt. Does dim arian ychwanegol i dalu am fand eang, er mor bwysig yw hynny, ond, mae'n debyg bod pethau’n wahanol yng Ngogledd Iwerddon. Mae'n rhaid i ni fenthyg arian i dalu am y cynlluniau hyn. Mae’r arian yn cael ei roi i Ogledd Iwerddon. [Torri ar draws.] Mae'r Ceidwadwyr yn meddwl bod hyn yn ddoniol. Edrychwch arnynt. Maent yn meddwl ei bod yn ddoniol bod Cymru yn cael ei gadael i lawr yn y modd hwn. Wel, gadewch i bobl Cymru eu barnu. Ac, ie, dewch inni gael yr etholiad cyffredinol nesaf, a dweud y gwir, os ydych chi’n ei ofni gymaint. Rydym yn fwy na pharod i ddweud wrth bobl Cymru nad ydych—ac eithrio, a bod yn deg, rhai o'ch siaradwyr—wedi sefyll dros Gymru ar yr achlysur hwn.

Gwnaeth Angela Burns y pwyntiau a wnaeth. Rwy'n cydnabod y ffaith ei bod wedi dweud y dylai Barnett fod yn berthnasol i iechyd ac addysg. Rwy’n ei hatgoffa ei bod wedi dweud bod gan y Ceidwadwyr, fel y blaid fwyaf, y dilysrwydd i lywodraethu. Nid dyna'r ffordd y gwelodd hi bethau y llynedd pan fu pleidlais yn y Siambr hon pan ddaethom ni’n ôl fel y blaid fwyaf. Roedd yn wahanol bryd hynny i'r hyn sydd yn awr, ond roedd honno’n blaid wahanol. Felly, mae anghysondeb yno, a gawn ddweud, yn y pwyntiau y mae hi wedi'u gwneud.

Yr hyn sy'n fy mhoeni’n fwy na dim yw bod y Llywodraeth Geidwadol wedi cael y dasg o gael y fargen orau ar gyfer y DU wrth iddi adael yr UE, a bod 10 o ASau y DUP wedi eu blingo nhw. Pa obaith sydd felly ar gyfer y dyfodol os mai dyna yw eu cryfder?

Gwrandewais yn ofalus ar Neil Hamilton: ‘malu awyr cwerylgar’ yw'r hyn yr wyf wedi’i ysgrifennu yma, yn ffugio bod yn ymgais i drafod, rhywun a gymerodd safbwynt Llywodraeth y DU—efallai yr hoffai fynd yn ôl i'r blaid Geidwadol—a’r DUP yn hytrach nag, unwaith eto, siarad dros y bobl y mae mewn gwirionedd yn eu cynrychioli. A gaf i ei atgoffa? Mae’n ddigon hawdd iddo ef feio pleidiau eraill am y sefyllfa hon, ond methodd ei blaid gael un AS o gwbl. Felly, os yw unrhyw blaid yn mynd i gymryd y bai am hyn, ei blaid ef fydd honno am eu methiant llwyr i gael unrhyw un wedi’i ethol i San Steffan.

Y gwir amdani yw bod y fargen hon wedi'i tharo i achub croen y Prif Weinidog, ac nid er budd pedair gwlad y DU. Ble mae hyn yn gadael Brexit? Ble mae'n gadael trafodaethau Brexit? Yr unig beth yr ydym yn ei wybod yw hyn, Llywydd: mae'r DUP yn hoff o'r ymadrodd ‘dim ildio’. Heddiw, mae'r Ceidwadwyr yn hoff o'r ymadrodd ‘ildio truenus’.