<p>Nodyn Cyngor Technegol 20</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 28 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 1:34, 28 Mehefin 2017

Diolch am hynny, ond daeth yr ymgynghoriad blaenorol i ben ym Mawrth y llynedd, sydd 15 mis yn ôl nawr, ac mae pobl yn dangos consýrn bod yna ddiffyg arweiniad yn hynny o beth. Sut ydych chi’n disgwyl i gynghorwyr, a’r Arolygiaeth Gynllunio, weithredu’n iawn ar y statws cryfach a ddaeth i’r Gymraeg drwy Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, os nad oes yna symud yn y mater yma? Ac, onid yw’n glir o’r penderfyniad i beidio sôn yr un waith am y Gymraeg yn y llythyr am gais cynllunio Pen y Ffridd ym Mangor—cais a wrthodwyd gan y cyngor, yn rhannol oherwydd ei effaith iaith—nad oes yna flaenoriaeth i’r Gymraeg yn hynny o beth? Sut, felly, ydych chi, fel Gweinidog, yn bwriadu y bydd y cyngor technegol newydd yma, pan gaiff ei gyhoeddi, yn cymryd mewn i ystyriaeth y materion yma ac yn gwneud hyn mewn ffordd amserol nawr?