<p>Nodyn Cyngor Technegol 20</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 28 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:35, 28 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, mae’r gallu i bennu’r canllawiau ar gyfer y nodiadau cyngor technegol a roddir gan Lywodraeth Cymru yn fesur hanfodol bwysig mewn unrhyw system gynllunio. Mae’r rhan y mae cynghorau cymuned a chynghorau plwyf yn ei chwarae wrth benderfynu ar geisiadau yn aml iawn yn cael ei hesgeuluso i raddau helaeth, a cheir diffyg dealltwriaeth ynglŷn â sut yn union y gall y nodiadau cyngor technegol fod o gymorth i gynghorau tref a chymuned i sicrhau bod eu trafodaethau’n fwy buddiol i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Pa waith y mae eich adran yn ei wneud i gynorthwyo’r broses o ddatblygu dealltwriaeth o’r nodiadau cyngor technegol a ddarperir gan yr adran gynllunio, fel y gallant hidlo drwy’r system gynllunio, ac er mwyn i gymunedau fod yn hyderus fod eu buddiannau’n cael eu gwarchod?