Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 28 Mehefin 2017.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, roedd adran 17 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr gynnal ymgynghoriadau cyn ymgeisio gyda’r gymuned ac ymgyngoreion technegol. A ydych wedi gwneud unrhyw asesiad o sut y mae’r broses hon yn gweithredu bellach a hithau wedi bod ar waith ers 15 mis?