Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 28 Mehefin 2017.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ysgrifennydd Cabinet, mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cyhoeddi adroddiad heddiw ar ddefnyddio maglau yng Nghymru. Mae nifer o’r argymhellion i chi ymateb iddyn nhw maes o law, wrth gwrs, ond rwy’n credu bod un argymhelliad fedrwch chi rhoi ateb heddiw yn ei gylch. Mae argymhelliad saith yn dweud y dylid gwahardd defnydd o faglau nad ydynt yn cydymffurfio â chod eich Llywodraeth eich hunain ar dir sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru. Rwy’n credu bod hwn yn gam syml a chadarnhaol y medrwch chi ei gymryd yn awr, i ddangos arweinyddiaeth ac i hyrwyddo’r defnydd o faglau sydd ond yn cydymffurfio â’ch cod eich hun ar gyfer effeithlonrwydd a lles anifeiliaid gwyllt. A wnewch chi gadarnhau heddiw eich bod chi’n fodlon gwneud hynny?