Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 28 Mehefin 2017.
Wel, credaf fod y pryder ymhlith ffermwyr wedi’i gynyddu o ganlyniad i ychydig o greu helynt gan y Ceidwadwyr Cymreig a’r datganiad i’r wasg a ryddhawyd ganddynt. Credaf mai’r hyn a ddywedais oedd bod gennyf oddeutu 7,000 o ddarnau o ddeddfwriaeth a rheoliadau yn fy mhortffolio, a chredaf mai ‘ystyried pob achos yn unigol’ a ddywedais mewn gwirionedd, ond yr hyn roeddwn yn ei ddweud oedd na fyddem, er enghraifft, yn caniatáu i safonau amgylcheddol lithro, ac y gallem gryfhau rhai ohonynt mewn mannau pe tybid bod angen gwneud hynny. Felly, rydych yn gywir. Mae angen inni edrych ar hyn yn bragmatig iawn i sicrhau ei fod yn gymesur.