<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 28 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:49, 28 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, yn anffodus, nid wyf yn rhannu eich barn ramantaidd ar hynny. Mae’r sector amaethyddol mor bwysig i Gymru, ac mae’r ffermwyr yn bryderus iawn. Byddant wedi eich clywed a gallant ddewis eich credu neu beidio. Ond tan 2020 yn unig y cawsom sicrwydd y bydd y cyllid hwnnw gennym ar eu cyfer. Ar ôl hynny, mae yna dwll du. Mae’r trafodaethau hynny’n parhau. Rydym yn rhoi pwysau anhygoel ar Lywodraeth y DU, a ddywedodd na fyddai Cymru’n colli ceiniog pe baem yn gadael yr UE. Felly, mae’r rheiny’n drafodaethau a gefais. Rwyf eisoes wedi cael sgwrs gychwynnol gyda Michael Gove. Rwyf wedi cyfleu’r farn honno’n glir iawn wrtho yntau hefyd. Felly, wyddoch chi—fel y dywedaf, nid wyf yn rhannu eich barn ramantaidd. Gobeithiaf y bydd y cyllid hwnnw’n parhau ar eu cyfer, a byddwn yn ymladd drostynt.