<p>Morlyn Llanw Bae Abertawe</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 28 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 1:50, 28 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn eich ateb i Simon Thomas yn gynharach, fe dynnoch sylw at yr oedi sydd wedi bod yn effeithio ar Lywodraeth y DU, ond gyda’r etholiad cyffredinol bellach wedi bod, efallai y gallwn weld yr oedi a’r esgusodion hynny am yr oedi’n diflannu. Ond mae trwyddedu morol yn fater pwysig, oherwydd gallai’r oedi hwnnw ddiflannu a gallem gael penderfyniad gan Lywodraeth y DU, ond byddai problem drwyddedu morol gennym o hyd. Siaradais gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yr wythnos diwethaf, ac fel y dywedwch, mae’r anghysondebau rhwng y ddau begwn yn lleihau, ond credaf fod arnom angen amserlen ar gyfer yr ateb hwn. A ydych yn barod bellach i gyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru a rhoi amserlen iddynt weithio iddi er mwyn i ni gael trwydded forol ar waith, naill ai ‘ie’ neu ‘na’, fel y gallwn gael penderfyniad yn gyflym?