<p>Morlyn Llanw Bae Abertawe</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 28 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 1:51, 28 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Mae môr-lynnoedd llanw, wrth gwrs, hefyd yn nodwedd bwysig a allai fod o fudd i arfordir gogledd Cymru, o ran datblygu economaidd ac o ran gwarchod yr arfordir. Ond un o’r pethau y mae datblygwyr posibl yn ei ddweud wrthyf yw y gallent wneud â rhywfaint o gyllid sbarduno er mwyn ariannu’r ymchwil a allai fod yn angenrheidiol ar sail ffynhonnell agored, ac ar gael i unrhyw un gael gafael arno, er mwyn iddynt allu bwrw ymlaen â’u prosiectau. Tybed pa drafodaethau a gawsoch gyda’ch cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, ynglŷn â’r posibilrwydd y gallai Llywodraeth Cymru fuddsoddi yn y gwaith ymchwil hwnnw er mwyn gwneud rhywfaint o gynnydd mewn perthynas â’r posibilrwydd o ddatblygiad o’r fath oddi ar arfordir gogledd Cymru.