Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 28 Mehefin 2017.
Yn dilyn y cytundeb rhwng y Ceidwadwyr a’r DUP yr wythnos hon—nid wyf yn gwybod a ydych wedi clywed am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet; a nodaf eich sylwadau cynharach i Simon Thomas, ond mae’r morlyn llanw yn hanfodol bwysig i Abertawe ac i Gymru—a fyddwch yn gwneud sylwadau penodol i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y mater hwn hefyd fel un o wyth Aelod Seneddol y Ceidwadwyr Cymreig y bydd yn rhaid iddynt sefyll cornel Cymru o hyn ymlaen? Rydym wedi gweld yr hyn y gall 10 o ASau’r DUP ei wneud—pa bris a fyddai i’w dalu am ASau’r Ceidwadwyr Cymreig yn sefyll cornel Cymru?