<p>Diwydiant Cocos Gŵyr</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 28 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 1:56, 28 Mehefin 2017

Diolch yn fawr am yr ateb yna, ond, er fy mod i’n croesawu unrhyw ymgais i geisio sefydlu achos marwolaethau’r cocos yn yr ardal, byddwch yn ymwybodol bod y casglwyr cocos lleol a phroseswyr ar benrhyn Gŵyr, fel ei gilydd, wedi datgan eu bod wedi colli hyder yng Nghyfoeth Naturiol Cymru i ddod i wraidd y broblem. Mae’r saga, fel rydych chi’n ymwybodol—ac yn bendant rydym ni’n ymwybodol ar benrhyn Gŵyr—wedi llusgo ymlaen am flynyddoedd lawer nawr, ac mae angen atebion ar y diwydiant hynafol, traddodiadol yma. Wnaethon nhw ddim dderbyn yr atebion angenrheidiol mewn astudiaeth a gynhaliwyd yn 2012. Pam y dylent fod yn fwy hyderus y tro hwn?