Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 28 Mehefin 2017.
Wel, bydd yr Aelod wedi clywed fy ateb i gwestiwn gwreiddiol Dai Lloyd. Credaf mai dyna pam ei bod yn bwysig ein bod yn parhau i fwrw ymlaen ag ymchwil er mwyn i ni gael y dystiolaeth wyddonol honno. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud bod angen i ni edrych ar y rhesymau dros y cynnydd mewn marwolaethau cocos. Un o’r pethau eraill a ddysgais gan Cyfoeth Naturiol Cymru oedd nad yw ansawdd dŵr yn ffactor, felly mae angen i ni ddarganfod beth sy’n achosi hyn. Fel y soniais, ni nodwyd un rheswm clir yn ôl yn astudiaeth 2012.