<p>Cynllun y Taliad Sylfaenol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 28 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:00, 28 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru, unwaith eto, wedi arwain ledled y DU ar ddarparu taliadau sylfaenol 2016. Talwyd bron i 90 y cant o fusnesau fferm cymwys ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu ac mae 15,435—sef 99.93 y cant—o fusnesau fferm wedi derbyn cyfanswm o £224.1 miliwn o daliadau. Erbyn hyn, mae 11 o fusnesau fferm cymwys yn aros am eu taliadau. Mae’r hawliadau hynny naill ai’n gymhleth, neu mae’r swyddogion yn aros am wybodaeth gan y busnes fferm.