Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 28 Mehefin 2017.
O ran eich pwynt olaf, ie, dim ond y moch daear sydd wedi’u heintio a chredaf y bydd yn dda ar gyfer y boblogaeth o foch daear. Credaf fy mod wedi gwneud hynny’n glir iawn yn fy natganiad ar TB buchol yr wythnos diwethaf. O ran y 50 i 60 o ffermydd, hwy yw’r ffermydd â TB cronig—rai ohonynt ers 16 neu 17 mlynedd—a fydd yn cael y cynlluniau pwrpasol hyn. Felly, ar hyn o bryd, mae gennym oddeutu 10 o’r cynlluniau pwrpasol hynny fwy neu lai wedi’u cwblhau, felly byddant wedyn yn gallu dechrau’r broses honno a chael yr asesiad milfeddygol hwnnw y cyfeiriais ato yn fy ateb cychwynnol. Felly, mae hyn yn mynd rhagddo bellach; rydym yn ei roi ar waith ar hyn o bryd. O 1 Hydref, byddwn yn rhoi’r rhan fwyaf o’r rhaglen ddileu wedi’i diweddaru a drafodwyd gennym yn y Siambr yr wythnos diwethaf ar waith.