Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 28 Mehefin 2017.
Wrth gwrs, ac fel y dywedais wrth Bethan Jenkins, nid yw hyn yn ymwneud ag un grŵp penodol o bobl. A dweud y gwir, mae llawer o’r atgyfeiriadau a ddaw drwy’r rhaglen Prevent yng Nghymru yn ymwneud ag eithafiaeth asgell dde yn ogystal, a gwn fod hwnnw’n rhywbeth y mae’r heddlu’n awyddus iawn i sicrhau eu bod yn mynd i’r afael ag ef, ac mae staff rheng flaen yn cael hyfforddiant i edrych ar hyn yn y sector cyhoeddus.
Mae’r fagloriaeth Gymreig newydd ar gyfer ysgolion a cholegau’n cynnwys opsiwn sy’n helpu i gynorthwyo athrawon a thiwtoriaid, hefyd, i hwyluso trafodaethau diogel ac adeiladol ymhlith dysgwyr ar bynciau sy’n ymwneud ag eithafiaeth a chydlyniant cymunedol, ac rwy’n credu bod hwn yn waith sy’n ymwneud â dechrau’n gynnar iawn, er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc yn oddefgar wrth iddynt dyfu i fyny. Hwy yw’r dyfodol, ac os gallwn ymgorffori hynny fel greddf naturiol—bod yn oddefgar—yna rwy’n credu mai dyna’r ffordd i wneud pethau: buddsoddi yn ein pobl ifanc.