Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 28 Mehefin 2017.
Wel, rwy’n hynod falch o raglen Cymunedau yn Gyntaf a roddwyd ar waith ar draws ein cymunedau. Dylid llongyfarch staff a gwirfoddolwyr ar draws y rhaglenni am yr hyn a wnaethant. Credaf eu bod wedi atal ein cymunedau rhag mynd yn dlotach, a gwneud yn siŵr fod yna gyfle i symud ymlaen gyda’r cyllido etifeddol a gyhoeddais yn gynharach eleni. Mater i’r partneriaethau yn lleol bellach yw penderfynu beth yw eu hasesiadau llesiant ar gyfer y cymunedau hynny, ac rydym yn gweithio’n agos iawn gyda hwy i sicrhau bod gennym y cyfleoedd gorau ar gael. Rwyf fi a Ken Skates—Ken yw’r Gweinidog sy’n arwain ar drechu tlodi—yn credu’n sylfaenol mai’r ffordd allan o dlodi yw swyddi a sgiliau o safon, a byddwn yn mynd ar drywydd hynny’n frwd ar draws ein holl gymunedau ledled Cymru.