Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 28 Mehefin 2017.
Wel, rwy’n credu bod gan yr Aelod nifer o grwpiau o unigolion y mae’n eu cynrychioli’n dda, ar y sail fod yn rhaid iddynt ddod i’w weld yn wythnosol. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod wedi cyflwyno deddfwriaeth yma, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n ymgorffori egwyddorion cydweithio ar yr union faterion y mae’r Aelod yn eu crybwyll heddiw am gydgynhyrchu a chyfleoedd. Mae pob un o’r asesiadau llesiant yn cael eu creu ar draws y cyrff cyhoeddus, a byddwn yn disgwyl i bob un o’r rheiny barchu sefydliadau sy’n gweithio ar hyd a lled Cymru er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i’r cymunedau hynny.