Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 28 Mehefin 2017.
Yn fy etholaeth, cafodd elfen cronfa partneriaeth canol trefi y rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid ei defnyddio i gefnogi mentrau pwysig yng nghanol y dref fel y mentrau â’r enwau lliwgar, Yabba Dabba Dare a Faberdare, sydd wedi chwarae rhan bwysig yn denu pobl i ganol tref Aberdâr. Gan gydnabod bod y rhaglen bob amser wedi’i llunio i fod yn gynllun â phen draw iddo, pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i ddigwyddiadau tebyg wedi’u hysgogi gan y gymuned yn y dyfodol er mwyn eu galluogi i ddenu pobl i mewn i’n trefi a’n pentrefi?