Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 28 Mehefin 2017.
Rwy’n falch hefyd o allu cymeradwyo’r gwaith ar adfywio canol tref Aberdâr. [Torri ar draws.] Rwy’n hoffi bod yn hael. Mae’n sicr yn un o’r enghreifftiau gorau i mi eu gweld erioed o ddefnyddio’r math hwn o arian, ac mae’n atgoffa pobl o ‘Frenhines y Cymoedd’, fel roedd Aberdâr yn arfer cael ei galw, rwy’n credu.
Rwyf eisiau siarad am adnewyddu tai. A wnewch chi ein sicrhau y bydd hyn yn parhau i fod yn ffocws canolog? Mae’r defnydd o raglenni adfywio sy’n canolbwyntio ar dai ac yn seiliedig ar ardal yn bwysig iawn, yn enwedig pan fo’n defnyddio cymaint ag y bo modd o fusnesau lleol a gweithwyr sy’n byw yn lleol hefyd.