Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 28 Mehefin 2017.
Wel, mae cwestiwn manwl yr Aelod yn fy synnu, oherwydd mae Ffydd mewn Teuluoedd wedi bod yn cynnal ymgyrch yn y cyfryngau ers mis Hydref yn cyhoeddi—yn rhybuddio—y bydd yn rhaid iddynt ddiswyddo staff a chau’r ganolfan gymunedol newydd yn Eglwys Teilo Sant pan ddaw eu cyllid Cymunedau yn Gyntaf i ben. Felly, rwy’n synnu eu bod yn dweud wrthych nad ydynt yn gwybod am y cyllid pontio, oherwydd maent yn sicr yn gwneud yn siŵr fy mod i’n ymwybodol, a bod eraill ar y cyfryngau cymdeithasol yn ymwybodol hefyd. Rwy’n ymwybodol o gynlluniau pontio manwl bwrdd cyflawni lleol Abertawe, a bydd Ffydd mewn Teuluoedd, rwy’n deall, yn cael cyllid—cyllid llawn—hyd nes fis Mawrth 2018.