Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 28 Mehefin 2017.
Rwy’n credu ei bod anffodus, Llywydd, fod yr Aelod yn awgrymu bod fy ateb yn anonest mewn perthynas â hynny. Byddwn yn awgrymu bod yr Aelod—. Cyfeiriaf yr Aelod at fy ateb cyntaf. Mae cynorthwyo tadau a mamau fel ei gilydd i fabwysiadu ymddygiad rhianta cadarnhaol yn rhan annatod o Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf, ac rwy’n hynod o falch o’r gwaith a wnânt ar draws yr holl deuluoedd ledled Cymru.