Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 28 Mehefin 2017.
Diolch. Canfu arolwg tadolaeth blynyddol 2016 y DU fod 25 y cant o dadau’n dweud nad oedd digon o gymorth i’w helpu i chwarae rhan gadarnhaol ym mywyd y teulu. Yng Nghymru, canfu arolwg tadau Cymru, sydd newydd gael ei gyhoeddi, er nad yw’r rhan fwyaf o dadau a ffigurau tadol yn cael problemau gyda rhoi gofal, roedd dwy ran o dair yn dal i deimlo nad oedd eu rôl yn cael ei gwerthfawrogi i’r un graddau â’r rhiant arall gan yr awdurdodau a’r gymdeithas, ac mae bron i 80 y cant yn meddwl y dylai’r Llywodraeth, sef Llywodraeth Cymru, wneud rhagor i helpu tadau. Sut yr ymatebwch i hynny, lle mae’r pryderon yn ymwneud yn bennaf â’r ffordd y mae systemau i’w gweld yn gweithio mewn cyrff sector cyhoeddus, yn hytrach na bwriad y bobl sy’n darparu’r systemau hynny?