Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 28 Mehefin 2017.
Do, wrth gwrs, ac rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i godi’r mater hwn. Edrychwch, rydym yn gwbl glir fod dieithrio plant oddi wrth eu rhieni yn ffactor sy’n pennu llwyddiant person ifanc neu uned deuluol, ac rydym yn cydnabod bod hynny’n digwydd ar y ddwy ochr, mamau a thadau hefyd. Rwy’n hyderus fod gan sefydliadau Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg allu i gydnabod hyn ac ymdrin ag ef yn briodol. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw bod hon yn ddarpariaeth gymhleth iawn o ran cyflwyno ymyrraeth gymdeithasol gydag unigolion sy’n wynebu argyfwng. Ond rwy’n hyderus fod gallu gan fy nhimau, gan gynnwys Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru, i ymdrin â hyn yn llwyddiannus.