Part of 3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 28 Mehefin 2017.
Fel pawb yn y Siambr rwy’n credu, rwy’n teimlo’n fawr iawn dros y gweithwyr sydd ar fin colli eu swyddi. Rwy’n adnabod rhai ohonynt, mewn gwirionedd, sy’n gweithio i fyny yno. Nid yw colli swyddi yn y ffordd hon am fod corfforaethau mawr yn methu llawn werthfawrogi eu gweithlu yn newydd i ni. Yr ateb mewn gwirionedd yw creu swyddi newydd, felly a fyddech yn ystyried sefydlu cronfa entrepreneuraidd er mwyn i bobl a fydd yn colli eu swyddi yn Tesco gael cyfle i sefydlu busnes newydd o bosibl?