Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 28 Mehefin 2017.
A gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am ddod â’r ddadl hon gerbron, a’r cyfle i gyfrannu i’r ddadl? A diolch i Huw am ei ymroddiad i’r maes yma, sy’n hysbys i ni i gyd. Erbyn hyn—y pwynt yma yn y ddadl—bydd fy nghyfraniad i ar sail y ffaith os na allwch chi wneud dadl newydd, o leiaf gallwch chi ailadrodd dadl dda gan rywun arall.