Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 28 Mehefin 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau am gyflwyno’r ddadl hon y prynhawn yma ac i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl? Mae llawer o’r hyn rydym wedi’i drafod heddiw yn cydweddu’n gyda fy natganiad ynni ym mis Rhagfyr y llynedd ynglŷn â defnyddio ynni’n fwy effeithlon, symud i gynhyrchiant carbon isel, denu mwy o adnoddau, a chael budd economaidd o’r technolegau a’r modelau busnes newydd sydd bellach yn datblygu o’r newid. Mae hyn yn cynnwys y rhaglen flaenllaw hynod lwyddiannus gan Lywodraeth Cymru, Cartrefi Cynnes, a gynlluniwyd i sicrhau manteision economaidd i Gymru o ran cyfleoedd cyflogaeth a busnes. Mae pob un o’r mesurau gwella effeithlonrwydd ynni a osodwyd drwy ein cynlluniau wedi cael eu darparu gan fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.
Rhwng 2011 a 2016, rydym wedi buddsoddi dros £217 miliwn yng nghynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru i wella effeithlonrwydd ynni dros 39,000 o gartrefi pobl ar incwm isel neu bobl sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, ac rwy’n disgwyl gallu cyhoeddi ffigurau 2016-17 y mis nesaf. Felly, mae’n gyllid sylweddol, ond fel y dywedodd Lee Waters, mae gwir angen inni weld faint yn fwy y gallwn ei roi i mewn. Byddwn wrth fy modd yn rhoi £1 biliwn tuag at ein rhaglenni effeithlonrwydd ynni, ond rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn bragmatig. Y llynedd, sicrhaodd y cynllun Nyth arbedion cyfartalog amcangyfrifedig o dros £400 ar filiau ynni’r cartref. Pe bai’r arbedion amcangyfrifedig hyn yn cael eu gwireddu ar gyfer pob cartref sy’n cael ei wella drwy’r cynllun Nyth, byddai’n cyfateb i arbedion o fwy na £9.5 miliwn ar filiau ynni blynyddol.
Yn ddiweddar hefyd, bu inni gyhoeddi canfyddiadau gwaith ymchwil ar effeithiau iechyd Nyth. Mae’r ymchwil yn dangos bod y cynllun yn cael effaith glir a chadarnhaol ar iechyd y rhai sy’n ei dderbyn, gyda gostyngiad yn y defnydd o’r GIG gan y rhai sy’n derbyn mesurau effeithlonrwydd ynni drwy’r cynllun. Mae’r canfyddiadau hynny wedi cefnogi ein penderfyniad i ymestyn y meini prawf cymhwyster ar gyfer ein cynllun Nyth newydd i gynnwys deiliaid tai ar incwm isel sydd â chyflwr anadlol neu gyflwr cylchrediad y gwaed. Felly, rydym yn gwneud cynnydd ar drechu tlodi tanwydd, er nad yw rhai o’r dulliau trechu tlodi tanwydd wedi’u datganoli, fel y dywedodd Vikki Howells. Llywodraeth y DU sydd â phwerau dros ddiwygio lles, er enghraifft, a rheoleiddio’r farchnad ynni fanwerthol. Rhaid i mi ddweud na fyddai cynlluniau a gafodd eu nodi ym maniffesto’r Torïaid i gael gwared ar y taliad tanwydd gaeaf yn helpu chwaith. Yn gyffredinol, mae tlodi tanwydd wedi gostwng o 29 y cant yn 2012 i 23 y cant yn 2016, sy’n ostyngiad o 6 pwynt canran mewn pedair blynedd yn unig.
Dros y pedair blynedd nesaf, byddwn yn buddsoddi £104 miliwn pellach yng nghynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru, a bydd hynny’n ein galluogi i wella hyd at 25,000 o gartrefi pobl ar incwm isel, neu bobl, unwaith eto, sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Bydd ein buddsoddiad yn denu hyd at £24 miliwn o arian yr UE yn ychwanegol at gyllid y rhwymedigaeth cwmnïau ynni yn y DU. Mae ein buddsoddiad yn helpu i ddarparu sefydlogrwydd a sicrwydd i’r gadwyn gyflenwi effeithlonrwydd ynni yng Nghymru dyfu eu busnesau ar adeg pan fo Llywodraeth y DU wedi tanseilio hyder yn y diwydiant gyda’i hymagwedd oriog tuag at rwymedigaethau cyflenwyr ynni. Rwy’n ystyried cryfhau rheoliadau adeiladu hefyd drwy ein hadolygiad arfaethedig o Ran L eleni. Bydd hwn yn edrych ar sut y gallwn reoli gwerthoedd inswleiddio a lleihau defnydd o ynni mewn cartrefi. Yn ogystal, rydym wedi bod yn edrych ar gyfleoedd i ddenu mwy o adnoddau a chymorth gan gyflenwyr ynni, awdurdodau lleol, cronfeydd pensiwn ac eraill, i gyflymu buddsoddi ledled Cymru ar gyfer trechu tlodi tanwydd a chefnogi ein huchelgais o ran datgarboneiddio.
Rwy’n edrych ar bob cyfle i arloesi, mewn perthynas â chynhyrchion effeithlonrwydd ynni a modelau ariannol, a all helpu wedyn i gefnogi’r nifer sy’n manteisio ar welliannau effeithlonrwydd ynni o blith teuluoedd sydd â gallu i dalu yn ogystal â rhai sydd ar incwm isel. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad yn yr hydref ar fy nghynigion.
Bydd effeithlonrwydd ynni yn gyffredinol yn cael ei gynnwys yn y gwaith cwmpasu ar gylch gorchwyl Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, er mai seilwaith economaidd yn unig y bydd y comisiwn yn ei ystyried. Rydym yn credu bod seilwaith ynni modern, effeithlon a dibynadwy yn bwysig i’n busnesau a’n cymunedau, ac rydym yn ymrwymedig i gefnogi’r gwaith o ddatblygu cynhyrchiant ynni newydd adnewyddadwy.
Mae ynni adnewyddadwy a thrydan a gwres carbon isel yn elfen bwysig o ddull Llywodraeth Cymru o ddatgarboneiddio. Er mwyn darparu ynni carbon isel sicr a fforddiadwy, mae angen y gymysgedd honno o wahanol dechnolegau a meintiau, o’r raddfa gymunedol i brosiectau mawr. Mae’r newid i economi carbon isel, nid yn unig yn lleihau allyriadau, ond yn creu cyfleoedd ar gyfer twf glân, swyddi o ansawdd, a manteision yn y farchnad fyd-eang. Rwy’n ymrwymedig i sicrhau economi fwy cylchol yng Nghymru a defnyddio adnoddau naturiol y ddaear yn llawer mwy effeithlon.
Mae ynni yn rheidrwydd economaidd allweddol sy’n sail i’n hamcanion ar gyfer Cymru ddiogel a ffyniannus. O ran cyfleoedd, mae hyn yn golygu cefnogi buddsoddiadau ynni mawr mewn ynni adnewyddadwy ar y tir, ynni morol, ynni niwclear, ac yn y blaen, yn cynnwys ein dau brosiect buddsoddiad ynni mwyaf: Wylfa Newydd a morlyn llanw arfaethedig bae Abertawe. Amcangyfrifir y bydd Wylfa Newydd, er enghraifft, yn creu 850 o swyddi parhaol, a miloedd yn fwy am gyfnod dros dro. Mae Arbed, hefyd, wedi creu mwy na 470 o swyddi ac wedi darparu mwy na 60,000 o oriau o hyfforddiant mewn technolegau gwyrdd i weithwyr presennol a newydd.
Mae’r economi ddi-garbon yn un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yn y DU, gan greu swyddi a darparu buddsoddiad ar draws pob rhanbarth. Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar sawl achlysur yn nodi manteision datblygiadau ynni adnewyddadwy. Rydym hefyd wedi ymrwymo i gefnogi prosiectau ynni a arweinir gan y gymuned. O ganlyniad i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae 15 o gynlluniau cymunedol ar waith, yn darparu budd i’r ardal leol. Rwy’n cytuno â Jeremy Miles: mae’n ddiddorol iawn gweld rhai o’r modelau cydweithredol sy’n cael eu cyflwyno, ac rwyf wedi bod yn ffodus iawn nid yn unig i ymweld, ond i agor, cynlluniau o’r fath ers i mi gael y portffolio hwn.
Rwyf hefyd yn ystyried gosod targedau uchelgeisiol ond realistig ar gyfer ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Bydd y dystiolaeth o’r llwybr datgarboneiddio yn llywio’r modd y gosodir unrhyw dargedau ac yn ein galluogi i asesu pa lwybrau sy’n darparu’r cyfleoedd a’r canlyniadau gorau ar gyfer Cymru. Rwyf wedi ymrwymo i ddefnyddio fy holl bwerau i ddarparu mecanweithiau cymorth parhaus sy’n sicrhau ein bod yn cadw’r gallu i gyflawni datblygiadau cynhyrchiant newydd ac effeithlonrwydd ynni gan reoli’r gost i’r bobl sy’n talu’r biliau.