5. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Effeithlonrwydd Ynni

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 28 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 4:20, 28 Mehefin 2017

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i’r ddadl, gan nodi, efallai, nad yw dadleuon fel hyn mor gyffrous â’r ddadl neithiwr ynglŷn â’r DUP a’r Ceidwadwyr, ond rydw i’n credu ein bod ni wedi cael cyfraniadau meddylgar sydd nid yn unig yn dehongli’r broblem sydd gyda ni ond sydd hefyd wedi cynnig rhai syniadau newydd yn y cyd-destun hwn. Rwy’n edrych ymlaen at fwy o drafod â’r Ysgrifennydd Cabinet, i ddweud y gwir, achos er bod hithau wedi cyfrannu i’r ddadl, rydw i’n meddwl ei bod hi wedi cael ei hannog i wneud hyd yn oed yn fwy, mae’n deg dweud, ac rwy’n credu bod yna waith o hyd i bwyso ar y Llywodraeth i symud yn bellach ac yn gyflymach ar y llwybr y maen nhw eisoes arno fe.

Rydw i, yn sicr, yn dod at hwn gyda chymaint o sylw tuag at effaith tlodi tanwydd ag o ran yr economi ac o ran yr amgylchedd, hyd yn oed. Rydw i’n croesawu’r ffaith bod y grŵp trawsbleidiol wedi’i sefydlu gyda Mark Isherwood, ac yn edrych ymlaen at gefnogi hynny. Mae’n wir dweud, fel yr oedd Rhianon Passmore wedi cyfeirio ato, fod yna effaith iechyd bendant yn hyn. Mae babis sydd wedi cael eu geni heddiw ac sy’n byw mewn cartrefi oer dair gwaith yn fwy tebygol o ddioddef o asthma neu ryw fath o glefyd yr ysgyfaint. Mae byw mewn tai oer yn lladd cymaint o bobl yn gynnar ag ysmygu, diffyg ymarfer corff, a chamddefnyddio alcohol—dyna maint y broblem sydd gyda ni. Mae hefyd yn bwysig dweud bod yna effaith ar gyrhaeddiad plant—cyrhaeddiad addysgiadol plant—drwy beidio â chael lle cynnes i astudio ac i fod yn glud. Felly, mae’n dasg i ni fynd i’r afael â hwn, nid yn unig o ran yr economi ond o ran iechyd a llesiant ein pobl ni.

Rydw i’n credu mai un o themâu Huw Irranca-Davies wrth osod y ddadl yn drwyadl iawn, wedi’i gefnogi gan Jeremy Miles a hefyd Lee Waters, oedd y syniad yma ein bod ni’n edrych ar effeithlonrwydd ynni fel rhywbeth sy’n seilwaith cenedlaethol a ddylai fod yn rhan o waith y comisiwn. Rwy’n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cadarnhau y bydd effeithlonrwydd ynni yn rhan o’r gwaith hwnnw, ond rwy’n dweud wrthi hi, os taw economeg yn bennaf y mae’r comisiwn yn ei wneud, mae’r ddadl gan Vikki Howells a Lee Waters yn dangos yn glir bod hwn yn gyfraniad economaidd sylweddol y dylai’r comisiwn efallai nid jest yn cydnabod ond mynd yn llwyr yn ei flaen ag ef.

Mae’r effaith ar gymunedau lleol yn arbennig o ddiddordeb, fel yr oedd Jeremy Miles yn ei amlinellu. Rŷm ni yn gallu dysgu o enghreifftiau rhyngwladol drwy osod targedau mwy llym, drwy osod targedau sydd yn fwy penodol i ni ac sy’n ymateb i’r galw sydd gyda ni fan hyn, a hefyd drwy edrych ar syniadau newydd sydd y tu fewn i’n gallu ni nawr o annog datblygiad yn y maes. Roedd Lee Waters wedi awgrymu ein bod ni’n defnyddio’r dreth gyngor. Buasai’n well gyda fi wobrwyo pobl yn hytrach na’u cosbi nhw, ond rwy’n derbyn y pwynt. Efallai bod gyda fe ddiddordeb mewn gwybod bod Plaid Cymru, wrth i ni edrych ar y Bil sydd yn awr yn Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, wedi awgrymu bod modd rhoi rhyddhad treth stamp wrth werthu eiddo os oedd yr eiddo wedi cyrraedd rhyw lefel o effeithlonrwydd ynni. Er bod y gwelliant ddim wedi’i dderbyn gan Mark Drakeford, mae yna egwyddor wedi’i derbyn o ran trafod sut y gallwn ni ddefnyddio’r deddfau a’r trethi yr ŷm ni’n eu pasio fan hyn i effeithio ar ymddygiad pobl er mwyn annog y buddsoddiad yna mewn effeithlonrwydd ynni. Rydw i’n edrych ymlaen at hynny.

Rydw i’n falch bod y cynnig wedi cael croeso ym mhob rhan o’r Siambr, gan gynnwys gan David Rowlands. Roeddwn i’n cytuno â dechrau a diwedd araith David Rowlands. Nid oeddwn yn cytuno â’r rhesymeg, ond o leiaf mae ei gefnogaeth ef yno i’r syniadau sydd yn y cynnig.

Felly, diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth. Mae hi wedi bod yn drafodaeth werth chweil i’w chynnal. Rwy’n siŵr bod pobl y tu allan i’r Siambr hefyd wedi dilyn y drafodaeth yma, rydw i’n meddwl, gyda chryn ddiddordeb. Y cyfan a ddywedaf i wrth gloi wrth yr Ysgrifennydd Cabinet yw: rŷch chi wedi clywed erbyn hyn gymaint o gefnogaeth sydd i beth rŷch chi’n ei wneud ym mhob rhan o’r Siambr, ond rŷch chi hefyd wedi clywed ein bod ni angen i chi wneud dipyn yn fwy.