Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 28 Mehefin 2017.
Diolch, Llywydd. Rwy’n falch iawn o arwain y ddadl y prynhawn yma ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Cyn i mi ddechrau fy sylwadau y prynhawn yma, a gaf fi ddatgan buddiant fel myfyriwr addysg uwch rhan-amser yma yng Nghymru? Mae addysg bellach ac addysg uwch yn cael effaith eang a buddiol ar ein heconomi a chymdeithas Cymru, ond nid rhai o dan 24 oed yn unig a all gyfrannu at yr effaith gadarnhaol hon. Dyna pam rwy’n falch, yn syth ar ôl Wythnos Addysg Oedolion yr wythnos diwethaf, ein bod yn cael cyfle i drafod y rôl sydd i addysg ran-amser a dysgu gydol oes ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn natur ddatblygol ein gwlad a’i phobl.
Cyn i mi ddatblygu fy nghyfraniad, rwyf eisiau mynd i’r afael â’r gwelliannau a gyflwynwyd. Byddwn yn cefnogi gwelliant 2. Mae Plaid Cymru yn llygad eu lle yn tynnu sylw at y lefel o ansicrwydd y mae ein sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch yn ei hwynebu oherwydd methiant Llywodraeth Cymru i gadarnhau ei chynigion ar gymorth i fyfyrwyr a chyllid addysg uwch ar gyfer 2018-19. Credwn yn gryf fod angen cael pecyn a chynllun ariannol priodol tair blynedd ar waith. Ond o ran gwelliant 1, er fy mod yn clywed yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ceisio ei ddweud am ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol, nid wyf yn credu bod Gyrfa Cymru fel y mae yn addas i’r pwrpas. Mae’n hynod o brin o adnoddau ac nid yw’n darparu’r math o gyngor annibynnol a phwrpasol sydd ei angen ar ein dysgwyr ar y funud, felly byddwn yn gwrthwynebu’r gwelliant hwnnw.
Felly, er bod ffocws, yn ddigon teg, ar addysg bellach ac addysg uwch amser llawn, y pris a dalwyd am hynny yw ei fod wedi dod yn ddull diofyn o ddarparu. Pan fydd cymdeithas yn meddwl am fyfyrwyr, rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud bod y rhan fwyaf ohonom yn aml yn cysylltu hyn gyda llun o’r rhai sy’n mynd yn syth o’r ysgol i brifysgol neu goleg. Ond mae nifer sylweddol a chynyddol o oedolion yn dymuno dechrau neu barhau ag addysg bellach neu uwch ar gam gwahanol yn eu bywydau, ac mae gennym lawer o bobl sy’n gorfod goresgyn heriau i’w galluogi i astudio. Gall trafod eu trefniadau ariannol, dod o hyd i gwrs hyblyg i weddu i ymrwymiadau gwaith a theulu sydd eisoes yn bodoli, neu orfod cael gafael ar wybodaeth ar gyfer y cwrs lesteirio eu gallu i ymgymryd ag addysg ran-amser yn sylweddol. Erbyn 2022, bydd un rhan o dair o’n gweithlu dros 50 oed, ac eto mae’r rhan fwyaf o wariant Cymru ar addysg wedi’i gyfeirio’n bennaf tuag at blant a phobl ifanc. Ar hyn o bryd, bydd y rhai rhwng 18 a 24 oed yn cael bron i 100 gwaith yn fwy wedi’i fuddsoddi ar eu haddysg gan Lywodraeth Cymru na rhywun sydd rhwng 50 a 74 oed. At hynny, pan edrychwn ar nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant yng Nghymru o’i gymharu â phobl rhwng 50 oed a’u hoedran pensiwn nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant, mae’r ffigurau’n drawiadol—mwy na thair gwaith y gwahaniaeth: 60,000 o’i gymharu â thua 200,000. Wrth gwrs, mae’r anfantais i’w theimlo fwyaf yn y rhannau difreintiedig o’n gwlad.
Felly, os ydym yn dilyn ein tuedd bresennol, y gwir amdani yw ein bod mewn perygl o osod trap ar gyfer ein datblygiad economaidd a’n llesiant personol yn y dyfodol, gan y byddwn yn methu defnyddio gallu llawn a photensial pawb yn ein gweithlu, a byddwn yn methu datblygu’r potensial hwnnw a’r dalent honno mewn rhannau o Gymru sydd eisoes yn cael eu gadael ar ôl. Felly, yn wyneb y newid demograffig hwn, mae datblygu fframwaith ac adnoddau dysgu oedolion yn y dyfodol yn bwysicach nag erioed i sicrhau bod gan economi Cymru y sgiliau sydd eu hangen arni.
Mae Wythnos Addysg Oedolion newydd ddod i ben. Dyma’r 26ain mlynedd iddi fod yn dathlu a hyrwyddo’r rhai sydd eisoes wedi mynd ar y daith drwy addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith—menter wych, rwy’n siŵr y byddem i gyd yn cytuno. Ar ben hynny, wrth gwrs, rydym wedi cael y Gwobrau Ysbrydoli! sy’n pwysleisio’r modd y mae addysg yn un o’r arfau mwyaf defnyddiol a phwerus sydd gennym fel cyfrwng galluogi i bawb o unrhyw oedran neu gefndir allu ffurfio a newid eu bywydau mewn modd cadarnhaol.
Felly, ein bwriad, wrth drafod y mater hwn y prynhawn yma, yw gallu symud oddi wrth y pwyslais ar addysg amser llawn i gydnabod yn lle hynny y gwir botensial enfawr y gall dysgu rhan-amser ei gynnig. Fel y mae’r adroddiad a gomisiynwyd ar y cyd yn 2014 gan y Brifysgol Agored ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, ‘Mae’n Hen Bryd’ yn dadlau, mae addysg uwch ran-amser yn ymwneud â llawer o bethau, ond yn y pen draw mae’n dibynnu ar un ffactor allweddol, sef amser. Mae’r rhai sy’n dychwelyd at addysg ran-amser yn aml yn jyglo ymrwymiadau eraill. Maent yn gofalu am eu teuluoedd, maent eisoes yn dilyn gyrfa, neu maent yn ceisio goresgyn brwydrau personol i ailddechrau neu ailgyfeirio eu bywydau. Weithiau, maent yn gwneud yr holl bethau hyn gyda’i gilydd, ar yr un pryd.
Ar hyn o bryd ychydig dros 40,000 o bobl yma yng Nghymru sydd wedi’u cofrestru mewn addysg uwch ran-amser. Maent wedi penderfynu neilltuo dyddiau’r wythnos, gyda’r nos, ar ôl gwaith. Maent wedi gwneud ymrwymiadau personol, ac maent yn dyfalbarhau, yn aml iawn, drwy bwysau ariannol a theuluol i ennill cymhwyster, i ailhyfforddi eu hunain, i wella sgiliau neu ymgymryd â her ddeallusol. Ac rwy’n meddwl bod eu hymrwymiad a’u parodrwydd i fuddsoddi eu hamser, eu hadnoddau a’u hegni’n golygu y dylem ni yma yn y lle hwn hefyd wneud ymrwymiad iddynt hwy a dylem geisio gwneud popeth yn ein gallu i wneud y dewis y maent wedi’i wneud yn haws.
Ond mae’n amlwg o’r tueddiadau cyfredol, yn anffodus, fod oedolion yn ei chael hi’n fwyfwy anodd cofrestru mewn addysg ran-amser, gan fod y niferoedd, yn y blynyddoedd diwethaf, wedi bod yn dirywio. Gostyngodd y niferoedd sy’n dysgu’n rhan-amser 21 y cant mewn un flwyddyn rhwng 2015 a 2016 mewn sefydliadau addysg bellach ac roedd gostyngiad o 11 y cant yn y niferoedd sy’n astudio’n rhan-amser mewn addysg uwch yn yr un flwyddyn. Yn ogystal â hynny, cafwyd gostyngiad o chwarter yn nifer y dysgwyr mewn addysg awdurdod lleol i oedolion yn y gymuned yn yr un flwyddyn hefyd. Felly, ers 2011-12, mae 21,000 yn llai o ddysgwyr bob blwyddyn yn narpariaeth addysg awdurdodau lleol i oedolion yn y gymuned, i lawr o 35,000 i ychydig dros 14,000.
Nawr, rwy’n deall bod y Llywodraeth wedi ceisio mynd i’r afael â mynediad at addysg uwch ran-amser yn benodol, a dyna pam y cofnodwyd ein bod wedi croesawu darpariaethau adolygiad Diamond, argymhellion adolygiad Diamond a’r llwybr y mae’r Llywodraeth wedi cychwyn ar hyd-ddo. Rwy’n credu ei bod yn hollol gywir fod hwnnw’n rhoi parch cydradd i fyfyrwyr rhan-amser o ran y cymorth ariannol y gallant ei gael ar gyfer dilyn cyrsiau addysg uwch. Ond wrth gwrs, mae angen hwb ar addysg bellach hefyd o ran cymorth a mynediad ato, ac nid yw Diamond yn mynd i’r afael â hynny yn y ffordd roedd llawer ohonom wedi gobeithio y byddai’n ei wneud mewn gwirionedd.
Gan ddychwelyd at addysg uwch, ar hyn o bryd y ddwy flaenoriaeth i fynd i’r afael â hwy, wrth gwrs, yw cyllid a hyblygrwydd. Fe wyddom fod gwaith ymchwil diweddar gan y Brifysgol Agored yn dangos bod bron i chwarter y rhai mewn addysg uwch ran-amser yn defnyddio’u cynilion i dalu eu ffioedd dysgu, ac roedd chwarter arall yn ariannu eu haddysg drwy waith am dâl tra’u bod yn astudio. Ond mae’n destun pryder fod 17 y cant o ddysgwyr, yn ôl y Brifysgol Agored, wedi defnyddio dyled, gan gynnwys dyledion cardiau credyd, gorddrafftiau a benthyciadau diwrnod cyflog, i gyllido eu ffioedd dysgu. Mae’r ffigurau hyn yn dangos nad yw’r system bresennol yn gweithio i fyfyrwyr rhan-amser.
Nid yw’n hygyrch, yn enwedig i rai sydd mewn gwaith ar gyflogau isel yn y rhannau mwyaf difreintiedig o Gymru. Rwy’n credu bod ganddynt heriau penodol y mae angen i ni eu helpu i’w goresgyn. Felly, mae gennym amharodrwydd i fynd i ddyled ymhlith myfyrwyr aeddfed, a chredaf fod hynny hefyd o bosibl yn cyfrannu at y gostyngiad yn nifer y bobl sydd wedi bod yn ymgymryd ag addysg uwch ran-amser, ac addysg bellach yn wir, yn y blynyddoedd diwethaf.
Nawr, fe wyddom fod benthyciadau ôl-raddedig yn mynd i fod ar gael o fis Medi eleni. Credaf fod hynny’n beth i’w groesawu’n fawr, ond wrth gwrs, mae angen i ni wneud yn siŵr fod rhywfaint o sicrwydd y tu hwnt i’r flwyddyn academaidd nesaf ar gyfer y darpariaethau ôl-radd hynny, ac yn wir ar gyfer yr holl fyfyrwyr eraill ar ôl adolygiad Diamond. Yn y system bresennol, mae ceisiadau am fenthyciadau ar gyfer astudio rhan-amser ar agor i’w cyflwyno yn hwyrach na’r rhai ar gyfer astudio amser llawn, a rhaid gwneud y ceisiadau hyn drwy gyfrwng copïau caled yn hytrach nag ar-lein fel y gall myfyrwyr amser llawn ei wneud. Pam? Nid yw hynny’n hygyrch, nid yw’n dderbyniol, ac mae’n creu rhwystrau—rhwystrau ychwanegol—i bobl eu goresgyn.
Ac ar gyfer myfyrwyr dysgu o bell ar hyn o bryd, mae’n arbennig o siomedig am eu bod yn wynebu oedi hir rhwng cofrestru ar gyfer cwrs a gallu gwneud cais am fenthyciad wedyn, a dyna pam ein bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth cynghori ar yrfaoedd ac addysg i bob oedran, oherwydd ar hyn o bryd, nid yw darpar ddysgwyr sy’n oedolion yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Nid ydynt yn cael mynediad at y wybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd yn yr un modd â myfyrwyr amser llawn. Mae angen sicrhau hefyd fod yr opsiynau cyllid rhan-amser yn cael eu mynegi’n glir wrth y myfyrwyr hynny, fel y gall pobl fynd ati i ystyried y rheiny pan fyddant yn gwneud eu ceisiadau, er mwyn iddynt allu bod yn hyderus fod ganddynt adnoddau yn eu lle, nid yn unig ar gyfer y flwyddyn gyntaf y maent yn cychwyn ar eu cwrs, ond hyd at ddiwedd eu cyrsiau hefyd.