Part of the debate – Senedd Cymru am 6:11 pm ar 28 Mehefin 2017.
Fe sonioch am Gyrfa Cymru. Wrth gwrs, yr hyn a welsom—ac rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth ynglŷn â hyn yng ngogledd Cymru—yw haneru’r lefelau staffio yno. Rydym wedi gweld niferoedd yn disgyn. Yn ôl yn 2010, roedd gwasanaethau gyrfaoedd yn arfer gweld pob disgybl ym mlynyddoedd 10 ac 11; nawr, tua chwarter y disgyblion ym mlwyddyn 11 yn unig a welant. A yw hynny’n dderbyniol?