7. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Addysg Oedolion ac Addysg yn y Gymuned

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:23 pm ar 28 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 6:23, 28 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n cydnabod y pwynt hwnnw’n llwyr. Mae yna nifer o garfannau o bobl y mae angen i ni allu rhoi sylw iddynt yma. Felly, roeddwn yn gwneud y pwynt, dyna i gyd, fod hynny’n bwysig iawn i’r bobl mewn gwaith, ac efallai mewn cwmni lle mae ganddynt rywfaint o ymrwymiad ond eu bod yn dymuno symud ymlaen ynddo, ac yn enwedig mewn cwmnïau sy’n awyddus i dyfu eu hunain. Rwy’n meddwl mai’r dyfyniad a roddwyd oedd, ‘Beth sy’n digwydd os byddaf yn eu hyfforddi a’u bod yn gadael?’ Wel, yn bwysicach, beth sy’n digwydd os nad ydych yn eu hyfforddi a’u bod yn aros? Dyna neges y mae angen i ni ei chyfleu i lawer o gwmnïau Cymru. Mae gennym oddeutu 40 y cant o gwmnïau nad ydynt yn hyfforddi ar hyn o bryd. Ond rwy’n derbyn y pwynt y mae Darren Millar yn ei wneud ynglŷn â beth sy’n digwydd i bobl sydd ond eisiau gwella’u huchelgais personol penodol eu hunain, os mynnwch, a dyna pam y mae’r gwobrau Ysbrydoli! hynny mor bwysig yn aml. Felly, bydd y cynllun cyflogadwyedd hwn yn ystyried anghenion pobl sy’n dymuno camu ymlaen yn eu gyrfa, mewn man arall o bosibl, yn hytrach na gyda’u cyflogwr presennol.

Ac un o’r materion y bydd yn rhaid inni ymdrin ag ef yw gwneud yn siŵr fod y gwasanaeth gyrfaoedd a’r holl bartneriaid eraill sydd gennym—oherwydd bydd hon yn bartneriaeth ar draws y gymdeithas i wneud i hyn weithio—yn cyfeirio pobl at y pethau cywir mewn gwirionedd, felly os ydych yn glanio yn y lle anghywir, bydd y bobl hynny’n gallu eich cyfeirio yn ôl i’r lle iawn. Bydd pob un ohonom, fel Aelodau’r Cynulliad, wedi cael y profiad o bobl yn ceisio dod o hyd i’r ffordd honno, ac rwy’n gobeithio y gwelwch, pan fyddwn yn cyhoeddi’r cynllun cyflogadwyedd, mai’r hyn rydym yn chwilio amdano yw llwybr syml a mwy amlwg at y cymorth cywir i bobl, yn dibynnu ar yr hyn y maent ei eisiau neu beth yw eu huchelgais personol penodol. Ac yn fuan, byddaf yn gwneud datganiad llafar yn amlinellu’r ymagwedd honno at gyflogadwyedd.

Mae llawer o bobl wedi sôn am Gyrfa Cymru, ac aeth Gyrfa Cymru ati i ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid y llynedd i nodi gweledigaeth ar gyfer darparu gwasanaethau a datblygu yn y dyfodol, ac maent wedi galw’r weledigaeth yn ‘Newid Bywydau’. Rydym wedi gwrando’n ofalus iawn ar ganlyniadau’r ymarfer ymgysylltu, a bydd ein cylch gwaith i’r cwmni’n datblygu’r weledigaeth honno yn awr. Mae ein gwasanaeth gyrfaoedd cenedlaethol yn helpu cleientiaid i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i reoli eu gyrfaoedd a gwneud penderfyniadau mewn byd cymhleth a newidiol, ond rydym yn cydnabod ein bod yn dymuno gweld yr holl bobl ifanc yn symud yn esmwyth ac yn llwyddiannus drwyddo i mewn i waith, ac i oedolion gael eu hysbrydoli i reoli eu gyrfaoedd. Felly, mae ffocws gwahanol i’r cynllun hwnnw gan Gyrfa Cymru ar sut y byddant yn cyflawni hynny, gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael iddynt, ac rwy’n meddwl eu bod wedi croesawu hynny’n dda, mewn gwirionedd. Rwy’n meddwl, Llyr, eich bod wedi gwneud pwynt da am rai o’r pethau sydd wedi digwydd gyda Gyrfa Cymru, ond maent wedi ymateb i’r her o ailffocysu ar yr hyn sydd angen iddynt ei wneud, a bydd yn rhaid inni fanteisio ar ddulliau digidol a ffyrdd eraill o gyflawni hynny, yn hytrach na chyfarfodydd wyneb yn wyneb bob amser—Skype ac yn y blaen. Mae yna lawer o bethau digidol. Nid oes gennyf amser, Dirprwy Lywydd, i fanylu ar hynny.

Felly, yn olaf, hoffwn ddweud wrth y rhai sydd wedi sôn am bwysigrwydd dysgu oedolion yn gyffredinol nad oes unrhyw amheuaeth ein bod, fel Llywodraeth Cymru, yn cydnabod y cyfraniad pwysig y mae dysgu oedolion yn ei wneud i sgiliau, cyflogadwyedd, iechyd a lles ein dinasyddion, a dyna pam ein bod yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddysgu oedolion. Cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi polisi dysgu oedolion diwygiedig ar gyfer Cymru, sy’n nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y ddarpariaeth hon yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac yn cadarnhau ein hymrwymiad i ddarparu cyfleoedd i bob dysgwr drwy gydol eu hoes. Felly, a gaf fi orffen drwy ddiolch i’r Aelodau am adael i mi glywed eu cyfraniadau gwerthfawr, am adael i mi gyfrannu at y ddadl bwysig hon heddiw, ac i ddweud fy mod yn meddwl, mewn gwirionedd, ein bod yn cytuno i raddau helaeth, gyda rhai gwahaniaethau bach y gellir eu trafod dros y misoedd i ddod? Diolch yn fawr.