Part of QNR – Senedd Cymru ar 28 Mehefin 2017.
Yng Nghymru, mae gennym ansawdd dŵr sydd gyda’r gorau yn Ewrop, ac ansawdd ein dyfroedd ymdrochi yw’r gorau ar dir mawr Prydain, gyda 45 o faneri’n cael eu dyfarnu bob blwyddyn. Mae gennym gynlluniau yn yr arfaeth hefyd i wella ansawdd ein nentydd a’n hafonydd ymhellach dros y 4 blynedd nesaf.