<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 4 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:40, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Yr ateb i'r cwestiwn yw 'bydd'. Dyna’r hyn yr ydym ni eisiau ei wneud. Rydym ni’n edrych ar fanylion sut y gellir gwneud hynny, ond rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod yr un gwasanaeth yn cael ei gynnig yng Nghymru ag a gynigir yn Lloegr a'r Alban. Ceir materion fel, er enghraifft, costau teithio, a materion fel sut yr ydych chi’n darparu gofal parhaus ar gyfer triniaeth, yn hytrach na phobl ddim ond yn mynd adref. Mae'r pethau hyn yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, ond gallaf sicrhau arweinydd Plaid Cymru mai’r yr hyn yr ydym ni’n ceisio ei wneud yw sicrhau bod Cymru, Lloegr a'r Alban yn cynnig yr un gwasanaeth.