Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Os yw'n gymaint â hynny o flaenoriaeth, Prif Weinidog, dylech chi allu ymrwymo i hyn heddiw. Mae gennym ni Lywodraeth Lafur yng Nghymru, mae gennym ni 28 o ASau Llafur Cymru, ac mae cap cyflog y GIG yn dal i fodoli. Efallai eich bod chi’n hapus i feio eraill o ran cyfyngiadau cyllidebol San Steffan, ond gallech chi fod yn cymryd camau heddiw i ddiogelu gweithwyr, nyrsys y GIG a staff y GIG yng Nghymru. Holl bwynt datganoli yw dilyn gwahanol drywydd, trywydd gwell, a gallech chi fod wedi gwneud ymrwymiad eglur heddiw i ystyried o ble y gallai’r arian hwnnw ddod yn y gyllideb nesaf. Felly, mae eich diffyg gweithredu yn codi'r cwestiwn: beth yw diben y Blaid Lafur os nad ydych chi'n gallu amddiffyn gweithwyr Cymru? Prif Weinidog—[Torri ar draws.]