Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Gofynnodd arweinydd Plaid Cymru beth yw pwynt y Blaid Lafur. A gaf i ei hatgoffa bod gennym ni 28 o ASau a bod gan ei phlaid hi bedwar. Dyna yw pwynt y Blaid Lafur. Mae gan bobl ffydd yn Llafur Cymru. Gwelsom hynny yn ymgyrch yr etholiad cyffredinol. Maen nhw’n dweud dro ar ôl tro, 'Gwnewch hyn, gwnewch hynna'. Wel, nid yw pobl yn gwrando arnyn nhw. Mae hi a minnau o’r un safbwynt o ran cap cyflog y sector cyhoeddus. Yn sicr, mae dau beth y mae'n rhaid ei bod hi’n cytuno â nhw. Yn gyntaf, mai’r peth cyntaf y mae’n rhaid ei wneud yw sicrhau’r arian gan San Steffan. Nid ydym yn troi ein cefnau ar hynny, does bosib. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei wneud. Yn ail, does bosib ei bod hi’n disgwyl i ni wneud penderfyniad difeddwl, heb archwilio'r holl gostau posibl, ac mae hynny'n rhywbeth—