<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 4 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:48, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Rydym ni wedi cael trafodaeth gyda busnesau, yn enwedig y rhai yn y sector modurol, ac maen nhw wedi dweud wrthym nad oes angen cylchffordd i fwrw ymlaen â'r parc technoleg. Mae'n rhywbeth y byddai wedi bod yn braf ei gael ond nid yn hanfodol ei gael. Rwy’n credu os gwnaf ei roi yn y termau hynny, bod hynny’n deg. Ond, yn sicr, nid yw datblygiad y parc technoleg yn eu barn nhw yn ddibynnol ar ddatblygu cylchffordd. Yr hyn sy'n gwbl hanfodol yw ein bod ni’n sicrhau'r swyddi yn y parc technoleg ac yn diogelu pwrs y wlad. Mae hynny'n hynod bwysig, a dyna'n union yr ydym ni wedi ei wneud wrth wneud y penderfyniad hwn.